/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Dim ariannu cyfartal i bedwar rhanbarth rygbi Cymru - URC

URCFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae cwestiynau'n parhau dros strwythur rygbi proffesiynol Cymru yn y dyfodol ar ôl i Undeb Rygbi Cymru (URC) gyhoeddi na fydd y pedwar rhanbarth yn cael eu hariannu'n gyfartal.

Gwnaeth y corff llywodraethu'r cyhoeddiad ymysg son eu bod yn bwriadu torri tîm o'u haen broffesiynol.

Nid yw URC wedi cadarnhau na gwadu os yw torri tîm yn rhan o'u cynlluniau.

Ond mae penaethiaid URC yn bwriadu gweithredu system ariannu dwy haen newydd ar ôl cyflwyno rhybudd o ddwy flynedd ar y cytundeb presennol sy'n sail i gêm broffesiynol Cymru.

Daw'r cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA) hwnnw i ben yn 2027 er ei fod i fod i gael ei ddisodli gan gytundeb pum mlynedd newydd nad yw'r Gweilch na'r Scarlets wedi'i arwyddo.

Mewn ymateb, mae'r Gweilch a'r Scarlets wedi cyhuddo'r undeb o wneud tro pedol a chreu "rhagor o ansicrwydd yn ein gêm".

Roedd rhaid i bedwar rhanbarth proffesiynol Cymru arwyddo'r PRA newydd erbyn 8 Mai, ond dim ond Caerdydd (y mae URC yn berchen arno) a'r Dreigiau wnaeth arwyddo'r cytundeb.

Mae disgwyl i'r pedwar tîm barhau i fodoli fel y maen nhw tan o leiaf Mehefin 2027 pan ddaw'r hen PRA i ben, ond does dim sicrwydd ar ôl hynny.

Does dim sôn yn natganiad URC y byddan nhw'n torri rhanbarth gan leihau'r nifer i dri clwb proffesiynol.

Dywed y corff llywodraethu fod ganddyn nhw "feddwl agored i bob cynnig adeiladol a realistig ar y ffordd ymlaen".

"Rydym yn parhau i siarad gyda'r pedwar clwb am y dyfodol," meddai prif weithredwr URC, Abi Tierney.

"Rydym yn cydnabod y bydd hwn yn gyfnod o ansicrwydd ac rydym wedi ymrwymo i drin yr holl glybiau, chwaraewyr a chefnogwyr â pharch a thegwch trwy gydol y broses hon.

"Rydym yn cydnabod ymrwymiad parhaus pob clwb i rygbi Cymru a byddwn yn llunio cynllun newydd gyda budd gorau'r gêm gyfan yng Nghymru ar flaen ein meddwl."

Baneri'r Gweilch a'r ScarletsFfynhonnell y llun, Rex Features

Mewn datganiad ar y cyd mae'r Gweilch a'r Scarlets wedi dweud eu bod yn "bryderus ac yn siomedig" gyda phenderfyniad URC ynghylch ariannu pedwar rhanbarth.

Dywedodd y rhanbarthau bod y cynllun ariannu gan yr undeb bellach wedi "newid yn ddramatig a heb ymgynghoriad llawn".

"Mae hyn yn mynd yn erbyn addewidion diweddar a wnaed i'r clybiau ac i gefnogwyr rygbi Cymru."

Galwodd y rhanbarthau am "fwy o eglurder a manylion" am benderfyniad URC, ac am "strategaeth glir sy'n ein galluogi i barhau i gystadlu a thyfu fel clybiau proffesiynol".

Mae'r datganiad yn dweud: "Rydyn ni wedi cyfrannu'n fawr at lwyddiant rygbi Cymru ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithio mewn modd adeiladol gydag URC er mwyn canfod datrysiadau sy'n cefnogi'r gêm ar draws y wlad a sicrhau tegwch i bawb."

'Stori negyddol arall'

Yn siarad ar S4C, dywedodd cyn-gapten tîm rygbi Cymru, Ken Owens: "Mae hyn yn stori negyddol arall am rygbi yng Nghymru.

"Rydyn ni'n gobeithio fod yna gynllun ar gyfer y dyfodol.

"Mae'n rhaid i chi feddwl am y chwaraewyr a'r staff a sut mae'n effeithio arnyn nhw.

"Mae undeb y chwaraewyr yn trafod gyda'r rhanbarthau a'r undeb, ond rhaid stopio hyn, rhaid cydweithio i symud ymlaen ar gyfer y gêm."