Cyn-arweinydd Plaid Cymru'n annhebygol o gael ei ailethol yn 2026

Fe ymddiswyddodd Adam Price fel arweinydd Plaid Cymru yn 2023 wedi adolygiad damniol am y diwylliant o fewn y blaid
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn annhebygol o gael ei ailethol i'r Senedd yn 2026.
Cefin Campbell a Nerys Evans yw'r ddau ymgeisydd ar frig rhestr Plaid Cymru ar gyfer etholaeth newydd Sir Gaerfyrddin yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.
Mae Adam Price wedi'i osod yn drydydd - sy'n golygu fod ei obeithion o ddychwelyd i Fae Caerdydd yn 2026 yn ansicr.
Mae Plaid Cymru'n dweud eu bod yn "anelu at sicrhau grŵp cryf o aelodau'r Senedd i gynrychioli Sir Gâr" gan gyfeirio at arolwg barn diweddar a roddodd y blaid o flaen Llafur, Reform a'r Ceidwadwyr.
Mae rheolau Plaid Cymru yn rhoi pwyslais ar gydbwysedd rhywedd wrth ddewis trefn ymgeiswyr, ac yn Sir Gaerfyrddin roedd yn golygu bod yn rhaid dewis menyw yn ail ar y rhestr.
Mae disgwyl i Blaid Cymru ennill dwy o'r chwe sedd yn Sir Gaerfyrddin, ond byddai ennill tair yn her gan fod Reform a'r Blaid Lafur hefyd yn cystadlu am y safleoedd hynny.
Nid yw'r union nifer o bleidleisiau a gafodd pob aelod ar y rhestrau wedi'i gadarnhau eto.
- Cyhoeddwyd8 Mai
- Cyhoeddwyd23 Mawrth
Arweiniodd Adam Price y blaid i etholiad y Senedd yn 2021 gydag addewid i gynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru erbyn 2030, pe byddai Plaid Cymru yn dod i rym.
Roedd Adam Price yn cael ei ystyried fel Mab Darogan y blaid a fyddai'n gallu sicrhau annibyniaeth i Gymru, ac roedd disgwyliadau mawr ar ei ysgwyddau.
Fodd bynnag, daeth y blaid yn drydydd yn 2021 y tu ôl i'r Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr Cymreig.
Yn dilyn yr etholiad, fe wnaeth Adam Price arwyddo cytundeb cydweithio gyda'r llywodraeth Lafur, gan gyfrannu at gyflwyno polisïau fel prydau ysgol am ddim i bob disgybl.
Ymddiswyddodd fel arweinydd yn 2023 yn dilyn adroddiad a gomisiynwyd yn 2022 dan arweiniad Nerys Evans.
Daeth yr adolygiad i'r casgliad bod yna ddiwylliant o aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth o fewn y blaid.

Roedd Nerys Evans yn aelod o Senedd Cymru rhwng 2007 a 2011
O'i gymharu â Llafur a'r Ceidwadwyr, mae proses ddethol Plaid Cymru ar gyfer y rhestrau ymgeiswyr yn fwy cystadleuol, gan nad yw'r blaid yn rhoi triniaeth ffafriol i aelodau presennol o'r Senedd.
Mae'r blaid hefyd yn rhoi blaenoriaeth i gydbwysedd rhywedd wrth bennu trefn yr ymgeiswyr ar y rhestrau rhanbarthol.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru: "Yn hanner yr etholaethau, mae'r safle cyntaf yn agored, yn yr hanner arall mae'r safle cyntaf ar gyfer menyw yn unig.
"Mewn etholaethau eraill, os yw'r safle cyntaf ar gyfer menyw yn unig, mae'r ail safle yn agored."
Yn Sir Gaerfyrddin, mae hyn yn golygu os bydd menyw'n dod ar frig y bleidlais gan aelodau lleol, rhaid i fenyw arall gael ei gosod yn ail ar y rhestr o hyd at wyth ymgeisydd ar y papur pleidleisio. Os bydd dyn yn dod yn gyntaf, rhaid i fenyw gael ei gosod yn ail.

Cafodd Cefin Campbell ei ethol i'r Senedd yn 2021
Gyda Cefin Campbell a Nerys Evans yn cyrraedd brig y rhestr, mae'n ymddangos bod siawns Adam Price o sicrhau sedd yn llai pendant.
Roedd Nerys Evans yn Aelod Cynulliad rhwng 2007 a 2011, a chafodd Cefin Campbell ei ethol i'r Senedd yn 2021.
Yn y pedwerydd safle - y tu ôl i Adam Price - mae Mari Arthur, cyn-ymgeisydd Plaid Cymru yn Llanelli, sy'n gweithio ym maes marchnata ac yn y sector ynni cynaliadwy.
Iwan Griffiths, sy'n gynghorydd Plaid Cymru yn Llangennech, sydd yn bumed ar y rhestr, ac Abi Thomas, cyn-ymgeisydd ar gyfer etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn y chweched safle.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth wrth y BBC bod cael tri aelod yn Sir Gaerfyrddin "o fewn ein cyrraedd ni"
Yn siarad gyda'r BBC ddydd Gwener, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, bod Sir Gaerfyrddin yn "etholaeth arall lle mae 'na res o ymgeiswyr o safon uchel iawn, iawn", a bod yr "arolygon barn yn awgrymu'n glir bod cael tri aelod yna o fewn ein cyrraedd ni".
Wrth i'r Senedd ehangu, dywedodd ei fod yn "hyderus iawn y bydd cynrychiolaeth Plaid Cymru o fewn y Senedd honno yn ehangu hefyd".
Mae etholaethau Cymru wedi eu hail-lunio cyn etholiad y Senedd fis Mai nesaf, gydag 16 etholaeth newydd yn ethol chwe aelod yr un.
Bydd system bleidleisio newydd hefyd yn cael ei defnyddio, gan ethol aelodau'r Senedd o restrau plaid. Bydd nifer yr aelodau yn y Senedd hefyd yn cynyddu o 60 i 96.
Dadansoddiad
Petai Adam Price wedi cael ei ffordd, gallwn ni fod ar drothwy refferendwm ar annibyniaeth i Gymru.
Roedd cynnal pleidlais o fewn pum mlynedd yn ganolog i'w ymgyrch yn etholiad y Senedd yn 2021, ond gorffen yn drydydd wnaeth Plaid Cymru.
Roedd fel petai'n derbyn y byddai'n gorffen yn drydydd eto - ar restr ei blaid y tro yma - wrth siarad gyda'r wasg yng nghynhadledd y blaid ym mis Mawrth.
I rai ym Mhlaid Cymru mae ei ymddiswyddiad yn 2023 a'r sgandal ynghylch y cyn-AS Jonathan Edwards yn dal i fod yn gwmwl dros y blaid.
Nid yw'n amhosib i Price a Phlaid Cymru ennill tair sedd yn Sir Gaerfyrddin, ond byddai angen noson dda iawn arnynt i wneud hynny.
Ac er eu bod wedi dod i'r brig mewn arolwg barn diweddar, fe allai proses ddewis Plaid Cymru olygu bod enw mawr arall yn colli ei sedd, gyda llefarydd economi'r blaid, Luke Fletcher, yn wynebu her i gael ei ail-ethol hefyd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai
- Cyhoeddwyd7 Mai
- Cyhoeddwyd7 Mai