Caerdydd a'r Dreigiau yn arwyddo cytundeb URC

Roedd URC wedi rhoi tan nos Iau i'r rhanbarthau arwyddo'r cytundeb
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi cadarnhau bod Caerdydd a'r Dreigiau wedi arwyddo Cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA25).
Daw'r cyhoeddiad er i'r rhanbarthau gytuno, mewn egwyddor, ar gytundeb pum mlynedd 'nôl ym mis Chwefror.
Ond dydi'r Scarlets na'r Gweilch wedi arwyddo'r cytundeb newydd, a hynny er i URC roi hyd nes 8 Mai i'r rhanbarthau wneud hynny.
Mae'r ddau ranbarth yn y gorllewin wedi oedi yn sgil pryderon am sgil effeithiau penderfyniad URC i gamu mewn ar ôl i Rygbi Caerdydd fynd i ddwylo'r gweinyddwyr fis diwethaf.
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2024
Mae'r cytundeb, sy'n cynnwys cynnydd mewn cyllideb o hyd at £6.5m o'i gymharu â'r £4.5m presennol, yn parhau tan 2029 ac yn un o elfennau allweddol cynllun hirdymor Undeb Rygbi Cymru o dan eu strategaeth 'Cymru'n Un'.
Roedd yr Undeb wedi rhybuddio'r Scarlets, y Gweilch a'r Dreigiau y byddant yn wynebu risg y bydd cyfnod rhybudd o ddwy flynedd yn cael ei osod pe na bai nhw'n arwyddo'r cytundeb - rhywbeth a allai beryglu dyfodol y rhanbarthau, meddai URC.
Cyn y cyhoeddiad nos Wener roedd clybiau cefnogwyr y Scarlets a'r Gweilch wedi dweud fod trafodaethau yn parhau.
Dywedodd prif weithredwr URC, Abi Tierney: "Rwy'n falch iawn o gadarnhau bod PRA25 nwydd wedi'i gytuno ar gyfer Clwb Rygbi Caerdydd a'r Dreigiau.
"Bydd y PRA25 yn darparu sylfaen sefydlog i alluogi llwyddiant parhaus ar y cae i Gaerdydd a'r Dreigiau a bydd yn cefnogi cynnydd cyffredinol y gêm broffesiynol yng Nghymru yn sylweddol."