'Bwysig bod ni'n siarad yn agored am ryw'
- Cyhoeddwyd

Ffraid Gwenllian
Ydy rhyw yn bwnc tabŵ o hyd neu ydy chi'n gallu siarad yn agored amdano gyda'ch ffrindiau a'ch teulu?
Un sy'n credu'n gryf fod angen trafodaeth mwy gonest am faterion rhyw yw Ffraid Gwenllian sy' wedi cychwyn cyfrif newydd o'r enw SECS ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Ffraid ar ei blwyddyn olaf yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor ac yn gobeithio fydd y cyfrif yn lwyfan i rannu gwybodaeth am faterion iechyd rhyw drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bu'n trafod ei menter newydd ar Dros Ginio ar Radio Cymru gyda Catrin Haf Jones.

Dwi wastad wedi bod efo diddordeb ym maes addysg rhyw. Dwi wedi bod isho cychwyn y cyfrif yma ers blynyddoedd ar ôl gweld fod 'na ddiffyg allan yna a gweld fod bwlch ar gyfer rhywbeth fel 'ma.
Dwi'n meddwl bod o'n eithriadol o bwysig bod ni'n siarad yn agored am rhyw - 'dan ni bellach yn 2024 a 'dan ni dal efo issues masif pan mae'n dod i drafod secs. O'n i rili isho creu y safe space 'ma lle mae gwybodaeth yn cael ei rannu'n hollol agored er mwyn normaleiddio'r sgyrsiau yna a gwneud pobl yn gyfforddus i gael y sgyrsiau yna efo teuluoedd a ffrindiau.
'Addysg rhyw ddim yn ddigonol'
'Nes i dyfu fyny ar aelwyd lle o'n i'n gallu gofyn unrhyw beth wrth Mam a Dad ond unwaith nes i fynd i'r ysgol uwchradd a'r brifysgol nes i sylwi bod hynna ddim o reidrwydd yn wir am bawb. Mae lot o bethau mae pobl wedi dysgu am secs wedi dod trwy word of mouth a ffynonellau dodgy weithiau neu addysg rhyw yn yr ysgol a 'dan ni'n gwybod bod hynny ddim yn ddigonol.
Felly o'n i'n meddwl bod o'n bwysig cael rhywbeth llafar oedd yn agor y sgwrs 'na i fyny a neud o mewn ffordd hwyl, ysgafn.

Graffeg o gyfrif SECS
Pwnc tabŵ
Mae o'n bwnc eitha tabŵ o hyd ac mae 'na gymaint o bethau sy'n dod dan ymbarél addysg rhyw ac maen nhw'n bethau mae pobl yn aml yn ofn siarad amdani nhw - ac falle ddim yn gallu siarad efo ffrindiau na teuluoedd amdanyn nhw.
'Dan ni gyd wedi tyfu fyny, pawb wedi bod trwy puberty a meddwl 'ai fi yw'r unig un">