/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Llyfrau mwyaf cariadus Cymru

  • Cyhoeddwyd
Llyfrau o'r rhestrFfynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

Mae hi'n ddiwrnod Santes Dwynwen - dydd y cariadon. Ond pam cyfyngu cariad i un diwrnod yn unig?

Yma mae Mari Siôn, o Gyngor Llyfrau Cymru, a chyflwynydd y podlediad Caru Darllen, wedi llunio rhestr o'r llyfrau Cymraeg sydd am wneud i chi deimlo'n gariadus unrhyw adeg o'r flwyddyn.

Llyfr Bach Jac y Jwc a Curiad CollFfynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Llyfr Bach Jac y Jwc (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) a Curiad Coll (Rily)

Llyfr Bach Jac y Jwc gan Mary Vaughan Jones, lluniau Jac Jones

Yn y gyfrol hon cafwyd ymddangosiad cyntaf un o gyplau mwyaf eiconig llenyddiaeth Gymraeg - Jac y Jwc a Jini. Llyfr dysgu darllen yw Llyfr Bach Jac y Jwc, ond drwy ddarluniau cofiadwy Jac Jones, daeth y cymeriadau'n fyw i genedlaethau o blant. Yma, mae'r ddau yn golchi a sychu'r llestri gyda'i gilydd, yn mynd am dro, ac yn gweld sioncyn y gwair. 'Mae Jini yn chwerthin ac mae Jac y Jwc yn chwerthin.' Diwrnod i'r brenin!

Curiad Coll - addasiad Alun Saunders

Mae cyfres Heartstopper gan Alice Oseman wedi bod yn aruthrol o boblogaidd, ac wedi'i throsi yn gyfres Netflix lwyddiannus. Drwy addasiad hyfryd Alun Saunders, bellach mae gan ddarllenwyr gyfle i ddilyn stori gariad Nick a Charlie drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma nofel graffeg arbennig, sy'n archwilio cariad cyntaf, dod allan, a iechyd meddwl mewn modd gynnes a chofiadwy.

Sêr y Nos yn Gwenu, Cysgod y Cryman, Pum Diwrnod a PhriodasFfynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Sêr y Nos yn Gwenu (Y Lolfa), Cysgod y Cryman (Gwasg Gomer) a Pum Diwrnod a Phriodas (Y Lolfa)

Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam

Dyma stori Leia a Sam, ddaeth i 'nabod ei gilydd gyntaf ym Mlwyddyn Dau, wedi i'r ddau ddod i eistedd gyda'i gilydd yn y dosbarth. Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, mae bywyd yn fwy cymhleth. Nofel am gariad, am golli ffordd, am gyfeillgarwch, am golled, am gymuned. Nofel berffaith ar gyfer unrhyw un gafodd flas ar Normal People gan Sally Rooney.

Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis

'Go iawn">