Pafiliwn 20,000 sedd Pontypridd 1893 ... a'r ddyled ddaeth wedyn
- Cyhoeddwyd

Darlun o Adelina Patti yn arwain canu Hen Wlad Fy Nhadau yn Eisteddfod Genedlaethol 1889 yn Aberhonddu - ond roedd pafiliwn Pontypridd 1893 yn fwy!
Ar ôl i Cymru Fyw gyhoeddi erthygl am bafiliynau enfawr y gorffennol yn dal 8,000 o bobl mae stori Eisteddfod Pontypridd 1893 wedi dod i'r fei gan guro'r ffigwr hwnnw o dipyn.
Dychmygwch yr olygfa: rydych chi mewn Eisteddfod Genedlaethol ar droad y ganrif ddiwethaf mewn pafiliwn sydd ag 20,000 o seddi - 10 gwaith capasiti pafiliwn Eisteddfod Tregaron 2022 - ac mae'r lle'n llawn i'r ymylon o bobl yn gwrando ar gorau o bob cwr o Gymru yn cystadlu am y brif wobr.
Mae'r adeilad mor fawr a'r to mor uchel mae angen cerddorfa i gyfeilio iddyn nhw.
Rhwng y cystadlu mae'r miloedd o Gymry capelgar yn diddanu eu hunain drwy ganu emynau mewn harmoni gan ysgogi gohebwyr papur newydd y dydd i ysgrifennu'n frwd am yr awyrgylch anhygoel yn eu hadroddiad y diwrnod wedyn.
Dyma stori Eisteddfod Pontypridd 1893, sydd wedi bod yn angof am 130 mlynedd yn ôl awdur llyfr newydd am yr hanes.
Yn y gyfrol No One Re Pontypridd: The Forgotten Story of the 1893 National Eisteddfod of Wales, a gafodd ei lawnsio fis Mawrth 2022 yn Amgueddfa Pontypridd, mae Sheldon Phillips wedi tyrchu mewn hen bapurau newydd i ddod o hyd i'r stori - o guro cais gan ddinas Chicago i gynnal y brifwyl, yr addewid i greu 'eisteddfod orau'r ganrif' a gwario miloedd o bunnau ar bafiliwn o ddur a gwydr o Wlad Belg, i siom y dyledion enfawr a ddaeth yn ei sgil.
Cystadlu gyda Chymry Chicago
Darganfyddodd Sheldon Phillips hanes Eisteddfod Pontypridd wrth ymchwilio i hanes ei deulu a darganfod bod ei hen ewythr yn ysgrifennydd cyffredinol yr ŵyl.
Darllenodd bod Pontypridd wedi cael brwydr fawr gydag Abertawe dros gynnal yr ŵyl yn 1891, a cholli, cyn gwrthsefyll cais gan Chicago am ei chynnal yn 1893.
"Fel y rhan fwyaf o bobl ro'n i'n meddwl pam ar wyneb daear fyddai Chicago yn rhoi bid am yr Eisteddfod Genedlaethol">