Eisteddfod: 'Canolfannau cystadlu' i ddisodli'r pafiliwn
- Cyhoeddwyd
Trystan Lewis: "Fydd y profiad yr un mor werthfawr... fydd yr un statws i'r ddwy ganolfan"
Bydd sawl newid i'r drefn gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gan gynnwys dwy ganolfan newydd i gymryd lle'r pafiliwn traddodiadol.
Mae trefnwyr y Brifwyl wedi cyhoeddi mai uchafswm o dri chystadleuydd fydd yn rownd derfynol pob cystadleuaeth bellach, sy'n golygu y bydd cystadlaethau torfol - fel corau, grwpiau llefaru a phartïon dawns - yn cymryd rhan mewn rowndiau cynderfynol.
Bydd dwy ganolfan gystadlu newydd ar y Maes, fydd yn llai na'r pafiliwn traddodiadol.
1,800 o seddi oedd yn y pafiliwn yn Nhregaron y llynedd, ond eleni bydd un ganolfan yn dal hyd at 1,200 o bobl, a'r llall yn dal 500.

Bydd y newidiadau'n dod i rym yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd eleni, yn dilyn adolygiad annibynnol o'r cystadleuthau.
Bydd prif seremonïau'r orsedd yn cael eu cynnal yn y ganolfan fwyaf.
Yn ôl y trefnwyr, yr unig dro roedd y pafiliwn yn llawn yn ystod Eisteddfod Ceredigion y llynedd oedd ar gyfer seremoni'r cadeirio ar y prynhawn Gwener.
Bydd y newidiadau'n dod i rym yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd eleni, yn dilyn adolygiad annibynnol o'r cystadlaethau.

Seremoni'r Cadeirio oedd yr unig un i lenwi'r pafiliwn y llynedd, medd yr Eisteddfod Genedlaethol
Yn ôl y trefnwyr, fe fydd y newidiadau yn "cadarnhau statws a phwysigrwydd cystadlu fel elfen greiddiol a chanolog i'r Brifwyl am flynyddoedd i ddod".
Bydd rhagbrofion ar gyfer unigolion a deuawdau yn cael eu cynnal yn yr is-bafiliynau ar y Maes, gyda chystadlaethau gwerin a cherdd dant yn y Tŷ Gwerin, llefaru a monologau yn y Babell Len, a rhagbrofion cerdd ym mhabell Encore.
Mae'r trefnwyr yn dweud mai'r nod yw cryfhau'r berthynas rhwng yr is-bafiliynau a'r rhaglen gystadlaethau.
Bydd y cystadlaethau torfol yn parhau i gael eu gwasgaru ar draws yr wythnos, ond mae'r Eisteddfod yn dweud ei bod hi'n bosib y bydd ambell gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar ddiwrnod gwahanol i'r blynyddoedd diwethaf.
Fe fydd y cystadlu yn dechrau'n hwyrach yn y dydd hefyd o dan y drefn newydd.

Mae'r trefnwyr yn dweud mai nod y newidiadau yw cryfhau'r berthynas rhwng yr is-bafiliynau a'r rhaglen gystadlaethau
"Yn yr ymgynghoriad roedd 'na gwestiwn sylfaenol - beth ydy pwrpas cystadlu">