/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Agor a gohirio cwest i farwolaeth dyn yn ffrwydrad Treforys

  • Cyhoeddwyd
TreforysFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanethau brys eu galw i ardal Treforys ar fore 13 Mawrth

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio i farwolaeth dyn 68 oed yn dilyn ffrwydrad yn ei dŷ yn ardal Treforys yn Abertawe.

Cafwyd hyd i gorff Brian Davies, adeiladwr oedd wedi ymddeol, yng ngweddillion ei gartref wedi'r ffrwydrad ar fore 13 Mawrth.

Fe wnaeth y gwrandawiad yn Abertawe bara ychydig funudau yn unig, cyn i'r cwest gael ei ohirio ar gyfer cwest llawn sydd wedi'i drefnu ar gyfer diwedd Medi.

Clywodd y crwner nad oedd achos meddygol manwl marwolaeth Mr Davies wedi ei benderfynu eto, a'u bod disgwyl am ganlyniadau profion tocsicoleg.

TreforysFfynhonnell y llun, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tŷ Mr Davies ei ddymchwel yn llwyr yn y digwyddiad, gyda sawl tŷ arall wedi'u difrodi'n sylweddol

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle am 11:20 ar ddydd Llun, 13 Mawrth.

Cafwyd hyd i gorff Mr Davies yn y prynhawn.

Mae ymchwiliad i achos y ffrwydrad yn parhau, ond dywedodd llefarydd ar ran Wales and West Utilities y bydd hyn yn cymryd peth amser oherwydd y difrod i'r safle.

Ar hyn o bryd mae'r achos yn cael ei drin fel un o ffrwydrad nwy posib.

Pynciau cysylltiedig