/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Gohirio'r Eisteddfod eto: 'Siomedig ond anorfod'

Mae Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion wedi cael ei gohirio am yr eildro yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cyhoeddodd trefnwyr yr Eisteddfod bod y penderfyniad "anodd" i symud y Brifwyl wedi cael ei wneud gan Fwrdd Rheoli'r sefydliad yn dilyn "nifer o drafodaethau" o ganlyniad i'r pandemig.

Ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, ei fod yn "benderfyniad siomedig ond anorfod".