/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cyn-filwr Ail Ryfel Byd wedi marw yn 102 oed

Mae Neville Bowen o Rydaman, a fu'n gwasanaethu gyda'r Llynges Frenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, wedi marw yn 102 oed.

Ar Sul y Cofio 2023 - ag yntau'n 101 ar y pryd - bu'n rhannu ei atgofion gyda BBC Cymru, gan ddweud mai "lwc" yw'r rheswm y goroesodd y rhyfel.

Bu'n cofio pa mor agos y daeth torpido at daro'r llong yr oedd yn gwasanaethu arni gyda'r Llynges.

Roedd yn rhan o'r ymdrech i amddiffyn llongau masnach ar Fôr Iwerydd ac fe welodd nifer o longau'n suddo.

Roedd hefyd yn rhan o Frwydr yr Iwerydd, a bu'n rhannu rhai o'i atgofion yn ystod digwyddiad ar gyfer cyn-filwyr ym Myddfai.

Dywedodd mai ei gyngor i bobl ifanc fyddai i "joio bywyd, fel 'sa ddim fory i gael".