/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

O'r archif: The Beatles yn dod i Fangor

Yr wythnos hon daeth cyhoeddiad ynglŷn â pha bedwar actor sy'n mynd i bortreadu John, Paul, George a Ringo mewn pedair ffilm sy'n mynd i gael eu cynhyrchu dros y blynyddoedd nesa am y Beatles.

Fe fydd seren Gladiator 2 a Normal People, Paul Mescal yn portreadu Paul McCartney. Seren Saltburn, Barry Keoghan fydd yn chwarae Ringo Starr.

Harris Dickinson fydd John Lennon a fydd George Harrison yn cael ei bortreadu gan Joseph Quinn.

Bydd y pedair ffilm wahanol yn canolbwyntio ar aelod gwahanol o'r band, ac mae disgwyl iddyn nhw gael eu rhyddhau yn agos i'w gilydd yn 2028.

Y cerddor a ffan mawr o'r Beatles Elis Derby oedd ar raglen Dros Frecwast, BBC Radio Cymru bore 'ma yn ymateb i'r cyhoeddiad.

"Dwi wastad wedi dweud na fyswn i eisiau gweld biopic Beatles achos fod cymaint o bethau fysa wedi gallu digwydd mewn ffilm dwy awr," meddai.

"Dwi'n meddwl fod o'n beth cŵl fod nhw'n trio rhywbeth newydd a gwneud ffilm yr un i'r pedwar aelod, o leiaf wedyn mae o'n rhoi amser i stori'r pedwar anadlu."

Steve McQueen fydd yn cyfarwyddo'r ffilmiau ac roedd hynny yn plesio Elis.

"Dwi'n meddwl mai hwn fydd y Mount Rushmore o'r biopics ynde achos eu bod nhw'n fand mor fawr a mor ddifyr," meddai.

Er i'r pedwar aelod gael eu magu dros y ffin yn Lerpwl fe aethon nhw ar ymweliad enwog iawn â Bangor fis Awst 1967.

Roedden nhw newydd ryddhau eu hwythfed albwm sef Sgt Pepper's Lonely Hearts Club Band cyn teithio i ogledd Cymru ar gyfer seminar o fyfyrdod gyda mudiad ysbrydol Maharishi Mahesh Yogi.

Ond mae'r trip yn enwog am reswm arall gan mai dyma ble glywodd y pedwar am farwolaeth sydyn eu rheolwr Brian Epstein.