/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Beth yw her Plant Mewn Angen Aled Hughes eleni?

Bydd Aled Hughes, cyflwynydd BBC Radio Cymru, yn cerdded Llwybr y Pererinion o Dreffynnon yn Sir y Fflint i Aberdaron ym Mhen Llŷn rhwng 9 a 15 Tachwedd 2024 i godi arian i elusen Plant Mewn Angen.

Mae'n llwybr 135 milltir o hyd, sy'n golygu y bydd y cyflwynydd yn cerdded dros 20 milltir bob diwrnod.

Bydd y tywysydd Merfyn 'Smyrff' Jones yn arwain Aled ar y daith, a bydd ambell wyneb cyfarwydd yn ymuno ag o hefyd.

Mae Aled wedi cwblhau nifer o heriau i godi arian i Blant Mewn Angen dros y blynyddoedd, gan gynnwys dringo'r Wyddfa bum gwaith mewn pum diwrnod.