/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Fideo canser y fron yn 'arf i leihau pryder pobl'

Mae mam o Landwrog ger Caernarfon wedi gwneud fideo o'i phrofiad o fyw gyda chanser y fron er mwyn helpu eraill.

Pan gafodd Nia Elain Roberts wybod ym mis Tachwedd 2023 ei bod hi'n wynebu llawdriniaeth a thriniaeth cemotherapi, dywedodd nad oedd ganddi fawr o syniad beth oedd o'i blaen a bod yna brinder deunydd Cymraeg.

"Mae hi mor bwysig codi ymwybyddiaeth. Mae'r ffaith i mi gael diagnosis yn 46 oed - mi ddoth fel sioc i fi," meddai wrth siarad â Cymru Fyw.

"Mi 'nes i 'neud y fideo yn gofnod i fi'n hun ond hefyd dwi'n gweld e'n arf i leihau pryder pobl."