/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cŵn darllen yn 'hybu hyder' disgyblion ysgol

Mae ystadegau'n dangos bod gostyngiad wedi bod yn nifer y llyfrau y mae disgyblion ysgol yn eu darllen.

Mae hynny am sawl rheswm, ond mae un sefydliad yn Sir Gâr wedi datblygu cynllun unigryw i annog plant i ddarllen.

Mae Sefydliad John Burns yn ceisio mynd i'r afael â'r her drwy hyfforddi cŵn i fynd i mewn i ysgolion i fod yn gwmni i blant tra'n darllen.

Yn ôl y prif weithredwr, mae'r cynllun yn "datblygu hyder plant".

Ychwanegodd un athrawes, sydd wedi hyfforddi ei chi i fod yn gi darllen, fod plant "yn fwy awyddus i ddarllen ac maen nhw'n mynd i bigo unrhyw lyfr maen nhw moyn".

Mae disgyblion Ysgol y Dderwen yng Nghaerfyrddin wrth eu bodd yn darllen i Enzo y ci bob wythnos.