/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

'Nofio yn y môr yn codi ti pan ma' bywyd yn galed'

Mae bywyd yn gallu bod yn anodd i Baden Meredith, cyn-filwr o ardal Abertawe.

Ond un peth sy'n codi ei galon yw nofio yn y môr fore Sul gyda chyn-filwyr eraill.

Ar hyn o bryd mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn ceisio canfod beth yw effaith nofio yn y môr ar PTSD.

I Baden Meredith mae'n brofiad arbennig: "Mae'n codi rhywun wedi cyfnod anodd.

"Ma' fe'n twymo dy galon a dwi'n meddwl [ar ddydd Sadwrn] un diwrnod arall cyn bo fi'n cael mynd i'r môr a siarad â'r bois."