/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Timothy Lewis, un o brif artistiad gwydr lliw Cymru, wedi marw

Timothy a Janet LewisFfynhonnell y llun, Janet Lewis a'r teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Awst y llynedd, dathlodd Timothy a'i wraig Janet 55 mlynedd o briodas

  • Cyhoeddwyd

Mae Timothy Lewis, un o brif artistiaid gwydr lliw Cymru, wedi marw yn 84 oed.

Yn wreiddiol o Bontarddulais, fe gafodd ei hyfforddi yng Ngholeg Celf Abertawe cyn mynd ymlaen i astudio yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain.

Roedd wedi bod yn byw gyda chlefyd Alzheimer.

Un o'i weithiau mwyaf enwog yw'r ffenestr i gofio criw bad achub y Mwmbwls a fu farw mewn storm ar y môr yn 1947, sydd yn Eglwys yr Holl Saint, Ystumllwynarth.

Tra'n astudio yn Llundain bu'n dysgu gan Laurence Lee - un o feistri'r grefft ym Mhrydain.

Fe ddychwelodd Mr Lewis i Abertawe ym 1963 ac erbyn 1972 daeth yn bennaeth yr adran ffenestri lliw pensaernïol yng Ngholeg Celf Abertawe.

Dan ei arweiniad, denodd yr adran fyfyrwyr o bob cwr o'r byd ac roedd ganddi enw da yn rhyngwladol.

Roedd Mr Lewis yn rhagori ar arddull appliqué, gan ddefnyddio glud oedd yn eithaf newydd ar y pryd i roi'r darnau o wydr ar ben ei gilydd yn hytrach na defnyddio'r plwm du trwm traddodiadol i gadw'r darnau yn eu lle.

Ym 1992 sefydlodd stiwdio ei hun - Stiwdios Glantawe yn Nhreforys – lle cafodd y rhan fwyaf o'i waith ei greu.

Ffenestr i gofio criw achub y Mwmbwls fu farw mewn storm yn 1947Ffynhonnell y llun, Janet Lewis a'r teulu
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith diweddarach Tim Lewis o 1977 i goffáu criw bad achub y Mwmbwls

Mae ei waith i'w weld mewn llawer o eglwysi, amlosgfa Llangrallo ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac adeiladau cyhoeddus eraill.

Roedd hefyd yn gyfrifol am greu'r ffenestr liw ar un o brif goridorau Ysgol y Berwyn, Y Bala.

Roedd y ffenestr yn darlunio'r pum plwyf yn nalgylch yr ysgol.

Ond cafodd y ffenestr ei symud i storfa yn Ysgol Godre'r Berwyn yn 2019, pan ailwampiwyd yr hen ysgol uwchradd.

Ym mis Awst y llynedd, dathlodd Timothy a'i wraig Janet 55 mlynedd o briodas.

Pynciau cysylltiedig