/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

'Deddfau erthylu Oes Fictoria yn dal i reoli cyrff menywod'

Elen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Elen Hughes o Ben Llyn: "Taswn i wedi gorfod delio efo hyn hefyd, bosib iawn dyna fasa niwedd i"

  • Cyhoeddwyd

Mae deddfau erthylu "Oes Fictoria" yn dal i reoli cyrff merched Cymru yn ôl mam o Ben Llŷn.

Daw hyn wrth i'r heddlu gyhoeddi canllawiau newydd sy'n caniatáu archwilio tai menywod am gyffuriau erthylu a gwirio ffonau am dystiolaeth.

Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn dweud nad ydyn nhw'n ymchwilio i achosion o'r fath yn aml, dim ond os oes amheuaeth fod erthyliadau anghyfreithlon wedi digwydd.

Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu luniodd y canllawiau, yn rhannol er mwyn osgoi cyhuddo merched ar gam.

Maen nhw'n dweud nad yw'r heddlu yn "ymchwilio yn aml i achosion o farwolaethau annisgwyl yn y groth."

Am fod pob achos yn cael ei drin â "sensitifrwydd", "does dim polisi ffurfiol yn y maes" am fod pob achos yn unigryw.

Mae'r canllawiau newydd yma wedi eu creu er mwyn cefnogi heddluoedd i ymchwilio i bob marwolaeth plentyn (llofruddiaeth, esgeulustod).

O fewn y ddogfen mae adran sy'n delio â therfynu beichiogrwydd yn anghyfreithlon.

Cafodd y rhan yma o'r canllawiau ei chreu, yn rhannol, i osgoi camgyhuddo mamau yn ddiangen a hynny yn dilyn cynnydd mewn adroddiadau sy'n cyrraedd yr heddlu ers pan newidiodd y ddeddfwriaeth ar gyfer erthyliadau cartref.

'Dyna fasa 'niwedd i'

Ond mae un fam, a gollodd ei babi yn farw-anedig, wedi dychryn o glywed am y cynlluniau.

Wrth sôn am ei phrofiad, dywedodd Elen Hughes o Ben Llŷn: "Mi fuodd Danial farw, o'n i wedi ei gario fo am 37 wythnos a 4 diwrnod.

"Mi roedd o'n feichiogrwydd hollol normal, ond mi fuodd o farw tu mewn i fi 37 wythnos a hanner.

"Yn anesboniadwy, doedd na ddim rheswm ar y pryd.

"Taswn i wedi gorfod delio efo hyn hefyd, bosib iawn dyna fasa niwedd i.

"Tasa rhywun wedi fy nghwestiynu i oherwydd be oedd wedi digwydd, a rhoi rhyw argraff mai fi oedd ar fai – dyna fasa'r diwedd.

Roedd o'r farn "bod hyn yn mynd i fod yn ofnadwy i unrhyw ferch fynd drwy hyn."

Elen HughesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Elen Hughes "bod hyn yn mynd i fod yn ofnadwy i unrhyw ferch fynd drwy hyn"

"Fedra i ddim dychmygu ar ben bob dim arall sy'n mynd drwy feddwl merch a'r teuluoedd sy'n mynd drwy ffasiwn brofiad o golli babi, cam-esgor neu farnedigaeth fod y bygythiad fod heddlu yn gallu troi fyny isio cwestiynu neu arwchwilio'r tŷ neu ffôn.

"Fedrai ddim dychmygu bo ni'n byw mewn ffasiwn oes," meddai.

Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn pwysleisio fod y ddeddfwriaeth o fewn y maes yma yn gymhleth.

Maen nhw'n dweud ei bod yn amrywio o ardal i ardal o fewn y Deyrnas Unedig.

Dim ond mewn rhai achosion lle bo' rhywun wedi dweud wrth yr heddlu fod yna amheuaeth o drosedd fydd 'na ymchwiliad.

'Ofnadwy'

Mae swyddogion yr heddlu yn cael eu hannog mewn achosion o'r fath i flaenoriaethu anghenion corfforol, emosiynol a seicolegol y fam, dros yr angen i ymchwilio.

"Mae'r ffaith bo' nhw yn medru g'neud hyn yn ofnadwy dwi'n meddwl," ychwanegodd Ms Hughes.

"Dwi'n dallt yn anffodus mai gwraidd y broblem ydi deddfau erthylu sydd gennym ni yn y wlad yma.

"A pam ma deddf o Oes Fictoria yn dal yn rheoli cyrff merched yn 2025 does 'na'm rhyfedd bod polisïau a chanllawiau hollol anghywir fel hyn yn bodoli".

Llinos Eames a'i gwr Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llinos Eames: "Dwi ddim yn hapus bo' nhw'n neud ffasiwn beth o gwbl"

Un arall sy'n siomedig â'r canllawiau newydd yw Llinos Eames.

Fe gollodd Ms Eames ei merch, Mari Lois, yn 2000 pan gafodd ei geni'n farw-anedig ar ôl cymhlethdodau yn ystod y beichiogrwydd.

"Dwi'm yn dallt sut mae pobol yn justifio bo' nhw'n cael mynd i dŷ rhywun a chwilio drwy laptops a mobile phones a ballu.

"Di hynny, i fi ddim yn rhywbeth sydd i fod ynde.

Ers colli Mari Lois mae Llinos wedi bod yn weithgar gydag elusen Sands (Stillbirth and Neonatal Death Society).

"Dim jest babi da chi'n golli, ond oes efo'r babi."

"Ar amser sydd mor anodd i deuluoedd, dwn i'm pwy sy'n neud y penderfyniadau 'ma ond fedra i ddeud wrthych chi un peth tydyn nhw ddim wedi colli pishyn o'u calon nhw. Tydyn nhw ddim yn gwybod be ydi claddu babi."

"Dwi ddim yn hapus bo' nhw'n neud ffasiwn beth o gwbl."

Pynciau cysylltiedig