Morgan 'yn barod i herio' polisïau sy'n niweidio Cymru

Mae Eluned Morgan ei hun wedi wynebu beirniadaeth gan y gwrthbleidiau am "aros yn dawel" ynglŷn â pholisïau Llywodraeth y DU
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y bydd yn "herio" y Llywodraeth Lafur yn San Steffan os ydyn nhw'n gwneud pethau "sy'n niweidiol i Gymru".
Mewn araith ym Mae Caerdydd fore Mawrth, dywedodd Eluned Morgan "na fyddai hi'n oedi wrth gwestiynu" rhai o benderfyniadau Llywodraeth y DU.
Galwodd am dro pedol ynglŷn â'r penderfyniad i dorri ar lwfans taliadau tanwydd y gaeaf, a mynegodd bryder hefyd am newidiadau arfaethedig i fudd-daliadau.
"Pan mae San Steffan yn gwneud penderfyniadau fydd, yn ein barn ni, yn niweidio cymunedau yng Nghymru, fyddwn ni ddim yn aros yn dawel," meddai.
Mynnodd nad oedd hyn yn arwydd o rwyg rhwng Llafur Cymru a'r blaid Brydeinig, ond yn hytrach yn arwydd o "lywodraeth aeddfed a modern".
Llafur ar ei hôl hi - arolwg barn
Hefyd ddydd Mawrth mae arolwg barn newydd yn awgrymu mai ras rhwng Llafur, Plaid Cymru a Reform fydd hi i fod y blaid fwyaf yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.
Mae'r arolwg a gyhoeddwyd gan ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn rhoi Plaid Cymru ar y blaen ar 30%, gyda Reform ar 25%, a Llafur ar 18% - yr isaf i Lafur mewn unrhyw arolwg barn ar gofnod yng Nghymru.
Roedd y Ceidwadwyr ar 13%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 7%, a'r Gwyrddion ar 5%.
Mae'r arolwg yn awgrymu mai Plaid Cymru fyddai â'r nifer uchaf o seddi petai'r canlyniadau'r un fath yn etholiad y Senedd, gyda 35 o seddi.
Byddai gan Reform 30, Llafur 19, y Ceidwadwyr yn ennill naw a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael tair.
Cyfanswm sampl YouGov ar gyfer yr arolwg oedd 1,265 o oedolion. Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 23 a 30 Ebrill 2025.
- Cyhoeddwyd31 Mawrth
- Cyhoeddwyd28 Mawrth
- Cyhoeddwyd26 Mawrth
Yn ystod yr araith yn yr eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd, fe wnaeth Ms Morgan alw am "gyfran deg" o'r buddsoddiad mewn rheilffyrdd, ac i Gymru elwa'n fwy o'i hadnoddau naturiol drwy ddatganoli Ystad y Goron.
"Maen nhw wedi cymryd ein glo, maen nhw wedi cymryd ein dŵr, ond fyddwn ni ddim yn gadael iddyn nhw gymryd ein gwynt," meddai.
Fe wnaeth hi ddadlau y dylai Cymru gael yr un pwerau dros ei thir â sydd gan yr Alban.
Awgrymodd hefyd fod "angen newid" system Fformiwla Barnett - y dull sy'n cael ei ddefnyddio i bennu dosbarthiad gwariant cyhoeddus o gwmpas y DU.
"Mae angen newid y system er mwyn sicrhau ei fod adlewyrchu anghenion y wlad, nid nifer y bobl sy'n byw yma."

Mae Eluned Morgan wedi cyhuddo ASau Llafur Cymru yn San Steffan o beidio â brwydro dros Gymru
Yn Natganiad y Gwanwyn fe wnaeth y Canghellor gadarnhau nifer o newidiadau i fudd-daliadau gan gynnwys prawf cymhwysedd llymach ar gyfer taliadau annibyniaeth personol (PIP) - y prif fudd-dal anabledd sy'n cael ei hawlio ar hyn o bryd.
Er nad yw Ms Morgan wedi beirniadu'r cynlluniau ers iddyn nhw gael eu cyhoeddi fis Mawrth, mae hi wedi awgrymu ei bod yn "poeni" am yr effaith bosib ar Gymru.
Mewn cyfweliad gyda'r BBC wedi'r araith, dywedodd ei bod am weld "elfennau o'r toriadau yn cael eu dileu.
"Be 'da ni am ei weld yw eu bod nhw'n defnyddio rhai o'r modelau sydd wedi gweithio i ni yng Nghymru - ac yn hytrach na chanolbwyntio ar y toriadau, dylid arwain pobl a'u cefnogi drwy'r prosesau hyn."
"Dyw torri budd-daliadau rhywun ddim am eu gwthio i fynd yn ôl i'r gwaith," ychwanegodd.
Mae tua 275,000 o bobl oed gweithio yng Nghymru yn derbyn PIP a 150,000 yn hawlio credyd cynhwysol iechyd.
"Dwi'n sicr yn credu bod angen edrych eto ar PIP. Mae hynny yn achosi problemau o fewn nifer o'n cymunedau.
"Mae'r toriadau i daliadau tanwydd y gaeaf yn rhywbeth sy'n codi dro ar ôl tro, a dwi'n gobeithio gweld Llywodraeth y DU yn edrych eto ar y polisi yma."
'Ymgais olaf i achub y sefyllfa'
Wrth ymateb i araith Ms Morgan, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS fod yr araith yn "anobeithiol" ac "ni fydd yn apelio at bobl Cymru".
"O frad gweithwyr dur a phensiynwyr i'r diwygiadau lles creulon, mae Eluned Morgan wedi bod yn cefnogi Keir Starmer. Rhoddodd hyd yn oed yr enw 'y bartneriaeth mewn grym' ar eu perthynas," meddai.
"Nid yw hyn yn ddim mwy nag ymarfer o ail-frandio sinigaidd, mwy o jargon a rhethreg gwag gan Brif Weinidog a phlaid Lafur sy'n methu ac yn amharod i sefyll dros fuddiannau Cymru."
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi disgrifio'r araith fel "ymgais olaf i achub y sefyllfa".
Mae Reform yn dweud bod ganddyn nhw'r Blaid Lafur o fewn eu golwg yn dilyn etholiadau lleol yn Lloegr yr wythnos diwethaf.
Dywedodd Ms Morgan yn ei haraith fod Reform yn blaid sy'n "creu ac yn manteisio ar raniadau".
Wrth siarad ar raglen World at One ar BBC Radio 4, dywedodd: "Ry'n ni'n gweld Reform fel bygythiad, ond mae bygythiad hefyd o'r adain chwith yn rhannu a chaniatáu i Reform ddod drwyddo.
"Rwyf heddiw wedi amlinellu symud Llafur Cymru yn bellach i'r chwith o Lafur y DU.
"Rwy'n deall eu bod nhw wedi gwneud penderfyniadau anodd wedi 14 mlynedd o lywodraeth Geidwadol, ond fe allan nhw wneud dewisiadau gwahanol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill
- Cyhoeddwyd11 Chwefror