/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Llywodraeth Cymru 'ddim am gael popeth' y mae eisiau - Morgan

Syr Keir Starmer ac Eluned MorganFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y drafodaeth gyda Syr Keir Starmer yn "gadarnhaol iawn," yn ôl Eluned Morgan

  • Cyhoeddwyd

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cael popeth y mae eisiau o adolygiad gwariant Llywodraeth y DU, meddai Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan.

Roedd Ms Morgan wedi galw ar Brif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer i roi cyllid ychwanegol i Gymru.

Ond ar ôl cyfarfod ddydd Gwener, dywedodd bod angen i bobl fod yn "amyneddgar" gan ddweud fod "llawer o bwysau" ar y prif weinidog.

Daw'r cyfarfod ar ôl i Ms Morgan feirniadu polisïau mewnfudo Syr Keir Starmer, gan ddweud y gallant for yn niweidiol i Gymru.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fod Eluned Morgan wedi mynd i Downing Street "a gadael gyda dim ond llun gyda Keir Starmer".

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, mae Eluned Morgan yn creu "rhwygiadau ffug" rhyngddi hi a Syr Keir Starmer.

'Glanio ambell i bwynt'

Roedd y drafodaeth gyda Syr Keir yng nghyfarfod Cyngor y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau yn "gadarnhaol iawn," yn ôl Ms Morgan.

Dywedodd wrth BBC Cymru mai "cyflawni blaenoriaethau'r cyhoedd" ydy llwyddiant iddi hi, gan ddweud mai dod â rhestrau aros i lawr, gwella'r rheilffyrdd ac adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol ydy'r rhain.

"Mae'r holl bethau yma ond yn bethau all gael eu cyflawni oherwydd ein bod wedi derbyn yr arian hwnnw gan Lywodraeth y DU," meddai.

"Fe wnes i'r achos, mae'n rhaid i ni gyd fod yn amyneddgar a gweld beth ddaw allan o'r adolygiad gwariant.

"Dwi'n glir nad ydyn ni'n mynd i gael popeth yn yr adolygiad gwariant, ond yn amlwg fyswn i'n siomedig os nad ydyn ni wedi glanio ambell i bwynt."

Ychwanegodd Ms Morgan bod cynnal perthynas adeiladol yn "bwysig iawn" iddi.

"Rydym yn deulu, teulu'r Blaid Lafur. Mi wnawn ni barhau i gyd-weithio gyda'n gilydd," meddai.

Wrth ymateb, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, bod Ms Morgan a Syr Keir yn "cerdded yr un llwybr a siarad yr un geiriau ar yr holl faterion sydd wedi achosi caledi a phryder i bobl Cymru".

"Dyw unrhyw fath o newid safbwynt gan Eluned Morgan ddim yn gallu cuddio'r ffaith bod ei theyrnged i'r blaid Lafur bob amser wedi dod yn flaenoriaeth cyn sefyll fyny dros bobl Cymru."

Awgrymodd Darren Millar, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, ei bod hi'n "gwbl amlwg" fod Eluned Morgan a Syr Keir yn agos iawn.

"Maen nhw'n ceisio creu'r teimlad yma bod rhwygiadau rhyngddynt o dro i dro, gan fod hynny'n cyd-fynd â'r naratif y mae'r Prif Weinidog eisiau ei gyfleu," meddai.

"Ond dydw i ddim yn coelio hynny am eiliad, a dydw i ddim yn credu fod pobl Cymru am goelio'r math yma o ffraeo ffug chwaith."