/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Dyn, 33, yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio dynes 69 oed

Dean Mark Albert Mears
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Dean Mark Albert Mears yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 33 oed wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio dynes 69 oed yn Y Rhyl.

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i dŷ ar Ffordd Cefndy yn y dref nos Iau.

Bu farw Catherine Flynn ar ôl iddi gael ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Clywodd Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun fod Dean Mark Albert Mears, o Rodfa Bodelwyddan ym Mae Cinmel, hefyd yn wynebu cyhuddiad o fwrgleriaeth waethygedig (aggravated burglary).

Ddydd Mawrth, ymddangosodd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf ym mis Chwefror.

Pynciau cysylltiedig