Sefyllfa'r celfyddydau yn 'hollol drasig' - Caryl Parry Jones
Dywedodd Caryl Parry Jones bod sefyllfa'r celfyddydau yn "hollol drasig"
- Cyhoeddwyd
Mae toriadau i'r sector celfyddydau yng Nghymru yn "drasig", yn ôl un o'r ffigyrau mwyaf blaenllaw yn y maes.
Yn siarad ar faes Eisteddfod yr Urdd, fe wnaeth Caryl Parry Jones feirniadu gwleidyddion am beidio blaenoriaethu'r sector.
"Mae'n gyfnod lle mae'r celfyddydau yn diodde'. Maen nhw'n diodde'n ariannol, maen nhw'n diodde o ran yr agwedd tuag atyn nhw," meddai.
Dywedodd y gweinidog sy'n gyfrifol am y celfyddydau, Jack Sargeant, fod Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi pecyn ariannol o £15m ar gyfer y sector.
Mae'r llywodraeth yn nodi hefyd bod sawl prosiect a gyhoeddwyd gan yr Urdd ddydd Mawrth, sy'n cynnwys Caryl Parry Jones, wedi'u hariannu ganddyn nhw.
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Roedd y cerddor a'r cyflwynydd Caryl Parry Jones ar y maes i gyhoeddi y bydd yn cyfansoddi anthem, fel un o brosiectau newydd ymgyrch #FelMerch yr Urdd, cyn pencampwriaeth Euro 2025 y merched.
Cyhoeddwyd hefyd y bydd hi'n ysgrifennu sioe gerdd newydd o'r enw Calon, fydd yn cynnwys ei chaneuon, i'w pherfformio yng Nghanolfan y Mileniwm yn 2026.
Cwmni theatr ieuenctid yr Urdd, Y Cwmni, fydd yn ei llwyfannu.
Ail-lansiwyd Y Cwmni yn 2022 gan yr Urdd, wedi'i gyllido gan grant gwerth £1.2m dros bum mlynedd gan Lywodraeth Cymru.
Yn ôl y llywodraeth, mae'r grant wedi galluogi'r Urdd i gynhyrchu ystod o gynyrchiadau, gan gynnwys sioe gerdd Calon yn 2026.
Dywedodd y llywodraeth hefyd mai nhw wnaeth ariannu'r chwe phrosiect i ddathlu'r Euro 2025 - a gyhoeddwyd gan yr Urdd heddiw, ac sy'n cynnwys yr anthem fydd yn cael ei chyfansoddi gan Caryl Parry Jones - gyda grant o £100,000.
Celfyddydau 'ar waelod y rhestr'
Yn y gynhadledd i'r wasg ar y maes dywedodd Caryl Parry Jones ei fod yn "gywilydd" fod y celfyddydau "ar waelod y rhestr wleidyddol".
"Mae'r celfyddydau wastad yn rhywbeth maen nhw [gwleidyddion] yn meddwl allan nhw dorri i lawr arno fo," meddai wrth BBC Cymru.
"Gwersi cerddoriaeth? Pfft, 'di o ddim ots am hynna; y theatrau'n cau," ychwanegodd.
"Oedd o'n dân ar fy nghroen i, clywed gwleidyddion yn d'eud, 'o, peidiwch bod yn falerina, cerwch i fod yn gyfrifydd'.
"Mae'n drasig, mae'n hollol drasig."
Ychwanegodd fod y celfyddydau yn "greiddiol" i fywyd pob dydd.
"Os na allwn ni gael y neges yna'n glir i'r rheiny sy'n gwneud y rheolau, dwi ddim yn gw'bod be' fydd pwynt cymdeithas."

Dywedodd Jack Sargeant fod Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi pecyn ariannol o £15m ar gyfer y sector
Roedd Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant, ar y maes i gyhoeddi eu cronfa gwerth £1m ar gyfer prosiectau'r Urdd fel rhan o Euro 2025.
Mewn ymateb i'r sylwadau am y celfyddydau, dywedodd: "Beth fydden i'n dweud i hynny yw, dim ond yr wythnos ddiwethaf, fe wnes i lansio blaenoriaethau newydd ar gyfer diwylliant gyda phecyn gwerth £15m.
"Os ydw i'n edrych, ers mis Medi, pan ddes i yn weinidog diwylliant, [rydyn ni wedi rhoi] mwy o arian na'r flwyddyn ddiwethaf ar gyfer y sector," ychwanegodd.
"Fe wnaeth buddsoddiad gynyddu yn y gyllideb ddrafft a'r un terfynol.
"Mae'n sicr yn agos iawn at frig ein blaenoriaethau a dwi'n falch iawn o fod yr un sy'n cyflwyno hynny."
'Rhan annatod o'n hunaniaeth'
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae ein cyllid ar gyfer y diwydiant diwylliannol a'r celfyddydau wedi gweld cynnydd refeniw o 8.5% eleni.
"Mae hynny ar ben cynnydd o £18.4m mewn cyllid cyfalaf i sicrhau bod asedau diwylliannol Cymru'n parhau.
"Mae'r cyllid hwn yn dair gwaith mwy na degawd yn ôl.
"Lansiwyd ein Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant wythnos ddiwethaf sy'n dweud bod gan bob person yng Nghymru yr hawl i gael mynediad, creu, cymryd rhan, a gweld eu hunain wedi eu hadlewyrchu yn ein gweithgaredd diwylliannol.
"Mae'n elfen hanfodol o'n bywyd cenedlaethol ac yn rhan greiddiol o'n hunaniaeth a'n lles unigol a chymunedol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
- Cyhoeddwyd9 Ionawr