/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Dyn yn pledio'n ddieuog i lofruddio menyw yng Nghaerdydd

Victoria ThomasFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Victoria Thomas wedi ei disgrifio fel "merch, mam, chwaer, modryb, nith a ffrind annwyl iawn"

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi pledio'n ddieuog i lofruddio menyw yng Nghaerdydd ym mis Awst.

Ymddangosodd Alcwyn Thomas, 44 oed, yn Llys y Goron Caerdydd wedi'i gyhuddo o lofruddio Victoria Thomas, 45.

Cafodd Ms Thomas ei chanfod yn farw mewn tŷ ar Heol Caerffili yn oriau mân y bore ar 20 Awst.

Yn dilyn ei marwolaeth, fe wnaeth teulu Ms Thomas ei disgrifio fel "merch, mam, chwaer, modryb, nith a ffrind annwyl iawn" sydd "wedi'i chymryd i ffwrdd mewn modd mor drasig".

Cafodd Alcwyn Thomas ei gadw yn y ddalfa a bydd yn sefyll ei brawf y flwyddyn nesaf.

Pynciau cysylltiedig