/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

'Cyffur canser yn caniatáu fi i fynd i briodas y mab'

Roedd Gwen Buchan, o'r Barri, wedi bod yn glir o ganser am dros ddegawd cyn ei deiagnosis o ganser eilaidd y llynedd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gwen Buchan, o'r Barri, wedi bod yn glir o ganser am dros ddegawd cyn ei diagnosis o ganser eilaidd y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae cyffur, sydd wedi'i brofi i ymestyn bywyd person â chanser y fron wedi lledaenu, wedi cael ei roi ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru am y tro cyntaf.

Dywedodd Gwen Buchan, 62, y bydd y cyffur yn caniatáu iddi fynd i briodas ei mab y flwyddyn nesaf ar ôl iddi gael gwybod bod ganddi ganser eilaidd.

Gall hanner y merched â chanser y fron o fath arbennig fyw ddwywaith yn hwy pan mae'r cyffur Capivasertib yn cael ei gyfuno â therapi hormonau.

Arbenigwyr yng Nghanolfan Canser Felindre a Phrifysgol Caerdydd sy'n gyfrifol am ddatblygu'r cyffur sydd ar gael yn fyd-eang.

Mae mwy na 2,000 o bobl yn cael diagnosis o ganser y fron yng Nghymru bob blwyddyn ac mae tua 600 o bobl yn marw o'r clefyd.

Yn ôl treialon, mae'r cyffur yn gallu arafu twf y canser yn sylweddolFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl treialon, mae'r cyffur yn gallu arafu twf y canser yn sylweddol

Pan fethodd triniaeth canser gyntaf Ms Buchan, roedd hynny'n "siom fawr".

Ond ar ôl darganfod bod gan ei chanser nam genetig cyffredin sy'n gweithio gyda Capiversatib, fe gytunodd i drio'r driniaeth honno.

Fe gafodd y cyffur ei gymeradwyo ar gyfer y gwasanaeth iechyd ym mis Ebrill.

"Wedi'r diagnosis eilaidd, y prognosis gwreiddiol oedd tua pump neu chwech o flynyddoedd, efallai mwy.

"I gael gwybod bod dal modd byw yn hirrach na'r disgwyl, dyna sy'n rhoi gobaith," meddai.

Mae Ms Buchan ymhlith miloedd yn y Deyrnas Unedig a miliynau ledled y byd a allai elwa o'r cyffur.

"Rwy'n credu fy mod yn ffodus iawn oherwydd bod gen i ŵr a phlant arbennig a'r ffrindiau mwyaf cefnogol.

"Gall y cyffur ganiatáu i fi weld priodas fy mab y flwyddyn nesaf ac edrych i'r dyfodol."

'Cyfle gwych'

Er i'r cyffur cael ei gymeradwyo gan y Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau (FDA) yn yr Unol Daleithiau ac mewn sawl gwlad arall yn 2023, dim ond eleni cafodd y cyffur ei gymeradwyo gan NICE ar gyfer y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd Simon Waters, Ymgynghorydd Oncoleg Meddygol yng Nghanolfan Canser Felindre: "Mae'n gyfle gwych nawr ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt yma.

"Mae pobl wedi bod yn gweithio'n galed i ddatblygu'r cyffur am flynyddoedd a mae'n wych ein bod ni'n gallu cynnig y cyffur fel triniaeth arferol ar y gwasanaeth iechyd."

Dr Waters
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Waters bod angen cymryd y cyffur ddwywaith y dydd bedair gwaith yr wythnos

"Rydyn ni wedi bod yn defnyddio triniaethau tebyg ar gyfer grwpiau llai o bobl am sawl blwyddyn ond mae problemau wedi bod gyda sgileffeithiau ond rydyn ni'n credu bydd y cyffur yma nid yn unig yn fwy effeithiol ond mi fydd yna lai o sgileffeithiau hefyd," ychwanegodd Dr Waters.

Mae tua 70% o gleifion â math o ganser y fron sy'n bwydo oddi ar yr hormon estrogen.

Er bod therapi hormonau yn gweithio am gyfnod, fel arfer mae'r canser yna yn dechrau gwrthod y driniaeth.

Ond fe ddarganfyddodd treialon FAKTION bod protein sy'n cynyddu gwrthwynebiad y canser i driniaeth yn cael ei dawelu gyda'r cyffur Capiversatib.

Dywedodd yr Athro Rob Jones, cyd-arweinydd yr ymchwil: "Roedd cleifion dderbyniodd y therapi hormonau gyda plasebo wedi byw am tua 20 mis ond fe wnaeth y rhai a dderbyniodd Capiversatib gyda therapi hormonau fyw am 39 o fisoedd yn ychwanegol ar gyfartaledd.

"Felly fe wnaeth y rhai a gymerodd y cyffur oroesi am ddwbl yr amser sy'n hynod o arwyddocaol. Mae hynny'n golygu mwy o amser gyda theulu a ffrindiau."

Pynciau cysylltiedig