Ysgol Dyffryn Aman: Merch, 14, 'wedi dangos cyllell' i'w ffrindiau

- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r stori hon yn cynnwys cyfeiriadau at hunan niweidio.
Mae llys wedi clywed bod merch 14 oed wedi dweud wrth ei ffrindiau ei bod am ymosod ar ei hathrawes yn Ysgol Dyffryn Aman, ychydig funudau cyn i ddwy athrawes a disgybl gael eu trywanu.
Ym mis Ebrill 2024, cafodd Fiona Elias, Liz Hopkin a disgybl eu hanafu gan ferch 14 oed na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol.
Mae'r diffynnydd wedi cyfaddef trywanu'r dair ond yn gwadu cyhuddiadau o geisio llofruddio.
Ddydd Mercher, fe glywodd y rheithgor gyfweliadau gafodd eu cynnal gan yr heddlu gyda rhai o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Aman.
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
- Cyhoeddwyd27 Ionawr
- Cyhoeddwyd27 Ionawr
Yn ôl un disgybl, fe ddywedodd y diffynnydd ei bod am "drywanu Ms Elias" y bore hwnnw.
"Doeddwn i ddim yn ei chredu hi, tan iddi ddangos rhan o'r gyllell oedd yn ei phoced," meddai'r disgybl.
Ychwanegodd: "Mae hi o hyd yn dweud pethau ni ddim yn credu."
Esboniodd y disgybl, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, fod Ms Elias a'r diffynnydd yn siarad yn neuadd isa'r ysgol, lle nad oedd caniatâd i'r ferch fod yno.
Dywedodd fod y diffynnydd wedi "newid yn gyfan gwbl" wedi iddi siarad gyda'i hathrawes.
"Roedd hi'n chwerthin ar Ms Elias, roedd hi'n gallu gweld ei bod hi ei hofn hi", meddai.

Y ddwy athrawes a gafodd eu hanafu - Liz Hopkins a Fiona Elias
Clywodd y llys i'r ysgol fynd dan glo wedi'r ymosodiadau.
Esboniodd disgybl arall iddi weld y diffynnydd ar fore'r ymosodiadau ac iddi ddweud ei bod "am wneud rhywbeth twp, fyddai'n arwain at gael ei diarddel", gan gyferirio at Fiona Elias.
"Roeddwn i'n meddwl bod hi'n mynd i slapio hi neu rhywbeth" meddai.
"Doedden ni ddim yn meddwl y byddai'n rhywbeth mor ddifrifol."
Disgrifiodd y disgybl yr ymosodiadau ar iard yr ysgol gan ddweud bod "llawer o sgrechian".
Clywodd y rheithgor i'r diffynnydd ddweud "dyma'r tro olaf chi'n mynd i fy ngweld i am amser hir" wrth ddangos cyllell i'w ffrindiau.
'Roedd hi'n berson gwbl wahanol'
Yn ôl un disgybl, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wnaeth ymbellhau o'r diffynnydd: "Wnes i feddwl, ydy hyn yn jôc? Beth mae'n mynd i wneud">