'Dyma'r diwedd': Athrawon a gafodd eu trywanu yn credu eu bod am farw

Y ddwy athrawes a gafodd eu hanafu - Liz Hopkins a Fiona Elias
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed bod dwy athrawes wedi meddwl eu bod ar fin cael eu lladd wedi i ddisgybl ymosod arnyn nhw mewn ysgol uwchradd.
Cafodd Liz Hopkin, Fiona Elias a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman eu trywanu gan ferch 14 oed na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol ym mis Ebrill y llynedd.
Mae'r ferch wedi cyfaddef trywanu'r tri ond mae hi'n gwadu cyhuddiadau o geisio llofruddio.
Ar ail ddiwrnod yr achos yn Llys y Goron Abertawe mae'r rheithgor wedi clywed cyfweliadau heddlu'r ddwy athrawes.
- Cyhoeddwyd27 Ionawr
Fe ddywedodd y pennaeth cynorthwyol Fiona Elias ei bod wedi gofyn i'r ferch adael neuadd isaf yr ysgol ar 24 Ebrill 2024.
"Roedd y ffordd roedd hi'n edrych arna'i - roedd rhywbeth sinistr yn ei llygaid," meddai. "Mae'n eithaf eironig - if looks could kill."
'Roedd hi wedi colli arni'
Dywedodd bod y diffynnydd yn edrych "yn fygythiol iawn, fel pe tai hi am wneud rhwybeth i mi" ac yn chwarae gyda rhywbeth ym mhoced dde ei throwsus.
Yn ôl Ms Elias dywedodd y ferch: "Wyt ti eisiau gweld beth sydd yn fy mhoced">