/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Elain Roberts yn ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd

Disgrifiad,

Enillodd Elain Roberts y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd yn 2023, a daeth yn drydydd yn y Goron yn 2022

  • Cyhoeddwyd

Elain Roberts o Bentre'r Bryn yng Ngheredigion sydd wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr.

Elain yw'r cyntaf erioed i ennill y Fedal Ddrama a'r Gadair yn Eisteddfod yr Urdd - enillodd y fedal yn 2023.

Hefyd am y tro cyntaf yn hanes cystadleuaeth y Gadair, mae'r wobr wedi'i hennill gan ferch am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Tesni Peers o Wrecsam oedd yn ail yn y gystadleuaeth, a Celt John o Aberystwyth yn drydydd.

Yn gyn-ddisgybl Ysgol Bro Teifi, aeth Elain i'r brifysgol ym Mryste i astudio Ffrangeg a Gwleidyddiaeth ac ar ôl graddio, symudodd adref i weithio.

Ym mis Chwefror eleni, symudodd i Lundain i ddechrau ar swydd newydd gyda Phlaid Cymru yn San Steffan.

Enillodd Elain y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 a daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Goron yn 2022.

Dim ond yn ddiweddar y dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth ar ôl mynychu dosbarthiadau cynganeddu yn Nhafarn y Vale, Felin-fach y llynedd.

'Rydym yn nwylo bardd gofalus'

Gofynion y gystadleuaeth eleni oedd llunio cerdd neu gerddi caeth neu rydd heb fod dros 100 o linellau ar y testun 'Tywod'.

Mae cerdd Elain wedi'i lleoli ar Draeth Gwyn ger Ceinewydd - lleoliad oedd yn rhan allweddol o'i magwraeth, ac yn lleoliad mae hi'n mynd iddo i chwilio am lonyddwch.

Dywedodd y beirniaid Tudur Hallam a Grug Muse fod Elain yn llwyr deilwng o Gadair yr Eisteddfod eleni am "gerdd sy'n gafael yn y darllenydd o'r caniad cyntaf, ac yn llwyddo i ddal ei gafael tan y pennill olaf un".

"Rydym yn nwylo bardd gofalus," meddai'r beirniaid.

"Stori gyfarwydd a geir yma, stori siaradwr Cymraeg ifanc yn gadael cefn gwlad am fywyd y ddinas, a'r traeth yn gyfrwng i archwilio'r teimladau a'r profiadau sydd ynghlwm â hynny.

"Llwyddodd y bardd i roi trefn ar emosiynau cymysg iawn, gan rannu â ni brofiad y Cymro a'r Gymraes a all fod yn ddedwydd ei byd mewn dinas Saesneg."

CadairFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gadair yn cynnwys cyfuniad o ddur Cymreig a dur gwastad a gynhyrchwyd ym Mhort Talbot

Dywedodd Angharad Pearce bod gwneud y gadair ar gyfer Eisteddfod Dur a Môr wedi "gwireddu breuddwyd".

Yn wreiddiol o'r Bala, mae Angharad wedi byw yn ardal Brynaman ers 20 mlynedd, ac mae hi wedi bod yn gweithio gyda dur ers 30 mlynedd.

"Mae'n rhywbeth sydd wedi bod ar fy wishlist ers blynyddoedd," meddai.

Mae'r gadair wedi cael ei hysbrydoli gan weithfeydd a'r diwydiant dur lleol, ac mae'n cynnwys cyfuniad o ddur Cymreig a dur gwastad a gynhyrchwyd ym Mhort Talbot.

Ychwanegodd Angharad: "Dwi'n ffodus i gael y darn olaf o'r dur Cymreig o weithfeydd Tata ar gyfer y gadair, a ro'n i'n benderfynol i greu cadair oedd yn teimlo'n bositif - oedd yn ddathliad yn hytrach na symbol trist am yr hyn a fu."

Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y cystadlaethau llenyddol gydol yr wythnos yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llenyddiaeth Cymru, er cof am Olwen Dafydd.