/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

'Trobwynt hanesyddol' gyda mwy o gefnogaeth i gadarnleoedd y Gymraeg

CaernarfonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y llywodraeth yn rhoi cymorth i ardaloedd sydd â chanran uwch o siaradwyr Cymraeg, fel Caernarfon

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y byddan nhw'n rhoi mwy o gefnogaeth i gadarnleoedd y Gymraeg, ar ôl galwadau am "shifft radical" i atal dirywiad yr iaith.

Yn ôl cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, mae'r cyhoeddiad yn "drobwynt hanesyddol" i'r iaith.

Nod y gefnogaeth, sydd wedi'i thargedu at ardaloedd â niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg, yw cryfhau'r iaith yn ei chadarnleoedd.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys gwell mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg a mwy o ganllawiau am yr iaith ar draws ystod o feysydd polisi.

Dywedodd Ysgrifennydd y Gymraeg Mark Drakeford fod y llywodraeth yn cytuno gyda'r egwyddor o ddynodi ardaloedd o'r fath, ond bod gwaith i'w wneud o hyd ar sut y bydd yn gweithio'n ymarferol.

Mae rhai wedi beirniadu'r diffyg manylion yng nghyhoeddiad y llywodraeth, gan ddweud nad oes cynllun clir nac amserlen.

Disgrifiad,

Dywedodd Mark Drakeford bod y llywodraeth yn cytuno "mewn egwyddor" i fwy o gefnogaeth

Daw'r cynlluniau ar ôl argymhellion comisiwn, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2022 i atal y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg.

Mae adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn gwneud 60 o argymhellion i gefnogi'r Gymraeg yn ei "chadarnleoedd" traddodiadol.

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Aelod o'r Senedd Plaid Cymru, Cefin Campbell, alw ar y llywodraeth i weithredu'r argymhellion hynny "yn gyfan ac ar frys".

Rhyddhaodd y Comisiwn ail adroddiad ym mis Chwefror yn argymell y dylid ystyried yr effaith ar y Gymraeg yn ystod ceisiadau cynllunio.

Dywedodd yr adroddiad y dylid trin ardaloedd sydd â mwy o siaradwyr yn yr un modd ag y mae ardaloedd cadwraeth arbennig yn cael eu trin.

Roedd hyn yn destun pryder i rai adeiladwyr, a ddywedodd y gallai hyn gynyddu biwrocratiaeth ac arwain at oedi wrth adeiladu tai "sydd eu hangen yn fawr".

Yn gynharach eleni, dangosodd ystadegau Llywodraeth Cymru fod y ganran o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yr isaf a gofnodwyd ers dros wyth mlynedd, gan godi cwestiynau am eu targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae'r amcangyfrif o'r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yng Ngwynedd (93,600) a Sir Gaerfyrddin (93,300), yn ôl arolwg blynyddol Llywodraeth Cymru.

Protest argyfwng tai
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ei sefydlu i edrych ar feysydd fel tai, twristiaeth, yr economi, amaeth ac addysg

Yn siarad ar faes Eisteddfod yr Urdd, dywedodd Mark Drakeford wrth BBC Cymru ei fod yn gobeithio y bydd modd sefydlu cynllun peilot yn y gogledd-orllewin cyn etholiad y Senedd ym mai 2026.

Ond mae'n cydnabod y bydd yr amserlen o ran gweithredu nifer o'r argymhellion yn mynd tu hwnt i'r etholiad.

Dywedodd fod y llywodraeth yn cytuno gyda'r syniad o ddynodi ardaloedd o'r fath, ond bod "angen gwaith" ar y manylion.

Mynegodd bryder gydag awgrym y comisiwn y gallai unrhyw ardal ble mae dros 40% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg gael ei dynodi fel un o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch.

"Mae'r adroddiad yn cymryd safbwynt eithaf mathemategol... ond mae mwy i'r iaith na mathemateg," meddai Mr Drakeford.

"Mae 'na bryder, os chi'n rhoi llinell ar fap, beth am y gymuned ar ochr arall y llinell yna?

"Fi eisiau gweithio gydag awdurdodau lleol, sefydliadau llawr gwlad, i ffeindio'r ffordd orau o roi hynny ar waith yn ymarferol."

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford mai'r nod yw "cryfhau'r Gymraeg yn ein cymunedau"

Ar Dros Frecwast fore Iau, roedd Mark Drakeford wedi dweud bod y llywodraeth yn derbyn "mwyafrif yr argymhellion".

"Argymhelliad canolog yr adroddiad yw sefydlu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch, a ni'n mynd i dderbyn yr argymhelliad yna, mewn egwyddor," meddai.

"Mae lot o waith i'w wneud, er enghraifft sut y'n ni'n mynd i ddynodi'r ardaloedd yna, a pa bwerau fydd yn yr ardaloedd yna i gefnogi'r iaith Gymraeg.

"Y pwynt nawr yw cael sgyrsiau gyda phobl ar sut ni'n mynd i ddefnyddio'r argymhelliad."

Ychwanegodd fod angen sicrhau nad yw'r cynllun yma yn "tynnu arian" oddi ar ardaloedd sydd ddim yn cael eu dynodi fel rhai dwysedd uwch.

Ond ychwanegodd y bydd y llywodraeth yn derbyn "pob argymhelliad o dan y pennawd sy'n delio gyda thai".

'Rhai pethau'n cwympo ar ôl yr etholiad'

Pan holwyd Mr Drakeford beth fyddai'r cynlluniau ariannol er mwyn gwireddu newid o'r fath, dywedodd bod mwy i'r polisi nag arian yn unig.

"Mae mwy o arian 'da ni yn y flwyddyn ariannol bresennol i gefnogi'r iaith, ond nid jest arian yw e," meddai.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud newidiadau "radical" ym maes tai a chynllunio, ac mai "addasu polisïau oedd hwnna, nid jest mwy o arian".

"Mae rhai pethau allwn ni neud - 'da ni mynd i fwrw 'mlaen cyn yr etholiad flwyddyn nesa'.

"Bydd rhai pethau yn cwympo ar ôl yr etholiad - dyna natur yr adroddiad."

Elin Haf Gruffydd Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones credu bod cydnabod ardaloedd o'r fath yn "drobwynt hanesyddol"

Yn ôl yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, mae'r cyhoeddiad yn "drobwynt hanesyddol" i'r iaith.

"Dwi'n meddwl bod cydnabod yr egwyddor o ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn drobwynt hanesyddol ac mewn polisi cyhoeddus," meddai.

"Mae'n drobwynt hefyd i ni fel cenedl wrth sylweddoli pa mor bwysig yw'r ardaloedd dwysedd uwch, nid yn unig iddyn nhw eu hunain ond i Gymru gyfan."

Ychwanegodd nad yw'r polisi yn tanseilio pa mor bwysig yw'r Gymraeg "ar draws Cymru gyfan".

"Rydym ni hefyd yn edrych ar gontinwwm o'r ardaloedd lle mae'r dwysedd yn uwch a'r ardaloedd lle mae'r dwysedd yn fwy canolig, ac wedyn yr ardaloedd lle mae'r dwysedd yn is.

"Mae'n gontinwwm a chyd-ddibyniaeth rhwng ein hardaloedd ni ar draws Cymru."

'Cam allweddol at sefydlogi'r Gymraeg'

Mae Rhys Tudur, ymgyrchydd mudiad Hawl i Fyw Adra, ac un o aelodau'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg, yn "croesawu'n fawr" y cyhoeddiad.

Ar Dros Frecwast, dywedodd fod dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol yn "gam allweddol at sefydlogi'r Gymraeg fel iaith fyw".

"'Da ni'n gwybod bod y cymunedau lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad gan drwch helaeth y boblogaeth yn lleihau yn eu nifer - does 'na ddim gwadu hynny.

"Felly dwi'n falch o'r diwedd bod yna symudiad pendant tuag at roi grym i'r ardaloedd yma, ymbweru'r ardaloedd i fedru gwrthweithio'r heriau a'r pwysau mawr mae'r Gymraeg yn wynebu."

Ychwanegodd ei fod yn "mawr obeithio" y bydd y newidiadau'n cael eu rhoi ar waith cyn diwedd y Senedd bresennol ym Mai 2026.

'Dim manylion sut na phryd'

Yn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones ei bod yn falch o weld ymrwymiad i sefydlu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch.

Ond ychwanegodd nad yw'r llywodraeth wedi egluro sut y bydd yr ardaloedd yn cael eu creu, na phryd.

"Rydym yn galw ar yr holl bleidiau gwleidyddol i ymrwymo yn eu maniffestos ar gyfer etholiad Senedd Cymru 2026 i weithredu prif argymhelliad y Comisiwn i sefydlu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch ac i roi cynllun ac amserlen clir yn eu lle er mwyn gwneud hynny," meddai.

Tebyg oedd ymateb llefarydd Plaid Cymru dros yr iaith Gymraeg, Heledd Fychan AS, a ddywedodd mai "siomedig yw'r diffyg eglurder heddiw o ran sut bydd y gwaith yn mynd rhagddo na chwaith ei gyllido".

"Rhaid cael yr eglurder hwn a hynny ar fyrder os ydym am lwyddo i atal dirywiad pellach o'r iaith yng nghymunedau Cymraeg eu hiaith."

Dywedodd Tom Giffard o'r Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn croesawu ymdrechion i gefnogi'r Gymraeg, ond bod "polisïau sy'n blaenoriaethu ardaloedd neu gymunedau penodol ar sail iaith yn peryglu anfanteisio eraill, adio biwrocratiaeth a chreu canlyniadau anfwriadol i bobl a busnesau".

'Dim gweledigaeth nac ewyllys i weithredu'

Yn eu hymateb nhw, dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod yn "rhoi marc o 33 allan o 100 i ymateb Llywodraeth Cymru" i'r argymhellion.

Dywedodd y gymdeithas fod yr ymateb yn "cydnabod yr argyfwng sy'n wynebu cymunedau Cymraeg ond nid yw'n cynnig gweledigaeth nac yn dangos ewyllys i weithredu".

Dywedodd Jeff Smith, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: "Fe wnaeth y Comisiwn Cymunedau Cymraeg drafod am ddwy flynedd, mae'r llywodraeth wedi trafod am 10 mis a phenderfynu ar ragor o drafod, ac ystyriaeth bellach ar ôl etholiad y flwyddyn nesa'.

"Pam bod y llywodraeth yn dal i sôn am drafod a gwneud gwaith ystyried pellach yn hytrach na gweithredu?

"Dydy diffyg gweithredu'r llywodraeth ddim yn cyfateb â'r argyfwng sy'n wynebu ein cymunedau."