Dafydd Elis-Thomas: Mab y Mans a Llywydd cynta'r Senedd

- Cyhoeddwyd
Daeth y cyhoeddiad fore Gwener bod yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi marw yn 78 oed.
Roedd yn un o'r ffigyrau cyhoeddus mwyaf blaenllaw a lliwgar Cymru dros yr hanner canrif ddiwethaf.
Cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol dros Blaid Cymru am y tro cyntaf yn 1974 i gynrychioli Sir Feirionnydd.
Yn 2021 fe safodd i lawr fel Aelod o Senedd Cymru dros Ddwyfor-Meirionnydd, wedi iddo gynrychioli'r etholaeth ers sefydlu'r Cynulliad, fel yr oedd bryd hynny, yn 1999.
Roedd ar un adeg yn cael ei alw'n 'Marcsydd Meirionnydd' ac yn un o brif arweinwyr syniadaeth yr adain chwith yng Nghymru.
Yn 2016 fe adawodd Blaid Cymru gan barhau fel aelod annibynnol o Senedd Cymru.
Ym mis Mai 2021, fe siaradodd yn agored gyda Cymru Fyw am ei fywyd a'i yrfa.
Gwleidyddiaeth ei arddegau
Dechreuodd ym myd gwleidyddiaeth yn gynnar: "Yn 1962 oedd 'na lot o'na ni efo diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn Ysgol Ramadeg Llanrwst, ac roedd Harold Wilson yn siarad mewn rali ym Mhwllheli felly es yno gyda ffrind i mi oedd yn Geidwadwr, a minnau wedi ymuno รข Phlaid Cymru yn 16.
"Dyma nhw'n dechrau'r cyfarfod gyda'r cadeirydd yn cyhoeddi'r emyn gyntaf, a finna'n meddwl 'be' sy'n mynd 'mlaen">