Dathlu Pride yng nghefn gwlad 'yn bwysicach nag erioed'
- Cyhoeddwyd

Daeth cannoedd i ddathlu yn Pride Y Gelli yn gynharach eleni
Am y tro cyntaf yr haf hwn mae nifer o drefi cefn gwlad wedi bod yn cynnal digwyddiadau Pride.
Yn ôl y trefnwyr maen nhw'n bwysig i ddangos i bobl LHDT+ sy'n byw mewn ardaloedd gwledig nad y'n nhw wedi eu hynysu.
Mae 'na 50 mlynedd ers i fudiad Pride ddechrau yn Llundain ac mae eu digwyddiadau blynyddol yn olygfa gyfarwydd yn ein dinasoedd, ond nawr mae 'na ymdrech i gynnal digwyddiadau tebyg mewn ardaloedd gwledig.
Mae 'na ddigwyddiadau eisoes wedi eu cynnal yn Y Gelli Gandryll a Llanymddyfri ac mae un i ddod yn Llandrindod y penwythnos nesaf.
Fe ddechreuodd Ella Peel grŵp Calon Cymru LHDTC yn ardal Llanymddyfri fis Awst llynedd.
"O'n ni mo'yn neud rhywbeth i gefnogi'r gymuned LHDTC," meddai.
"Dechreuodd e fel rhywbeth bach ond nawr mae llwyth o aelodau gyda ni a hefyd mae pobl yn y dre' wedi bod yn gefnogol iawn."
Ddiwedd Mehefin fe gawson nhw ŵyl Pride yn y dref am y tro cyntaf.

Un o weithgareddau Calon Cymru LHDTC ydy cynnal sesiynau sgwrsio i ddysgwyr Cymraeg
"Mae'n bwysig iawn cynnal digwyddiadau oherwydd ar hyn o bryd mae pobl traws yn cael amser uffernol. Mae lot o gasineb tuag atyn nhw.
"Os ti'n byw mewn rhywle gwledig mae'n gallu bod yn unig.
"Mae'n bwysig nawr yn fwy nag unrhyw bryd i ddathlu pawb sy'n LHDTC ond yn enwedig pobl traws a non-binary."
'Dal lot o ffordd i fynd'
Ymhlith gweithgareddau'r grŵp mae sesiynau sgwrsio i ddysgwyr Cymraeg.
Mae Ems Rixon yn gwerthfawrogi'r cyfle i fod yn rhan o'r grŵp.
"Fel person non-binary dwi isie lle i ddysgu ac ymarfer Cymraeg mewn ble dwi'n gallu defnyddio fy rhagenw 'nhw' a bod hynny'n cael respect.
"Mae'n ffordd dda i gwrdd â phobl newydd a dwi'n fwy confident yn siarad Cymraeg pob dydd."

Doedd Gethin Bickerton ddim yn gweld pobl fel ei hun wrth dyfu i fyny yng nghefn gwlad
Bellach yn byw yn Llundain, mae Gethin Bickerton yn dweud ei bod hi wedi bod yn anodd tyfu lan yn berson hoyw yng nghefn gwlad Sir Drefaldwyn.
"Y prif beth oedd yn bryder i fi oedd diffyg role model," meddai.
"Doeddwn i ddim yn gallu edrych ar rhywun a dweud, dyna ffermwr hoyw, dyna rhywun sy'n agored, sy'n cael ei dderbyn, rhywun sy'n byw bywyd hapus fel ffermwr hoyw.
"Doeddwn i ddim yn gallu gweld hynny ac o'n i'n meddwl ydyn nhw'n bodoli, ydy e'n rhywbeth allen i fod">