Y gantores Beth Frazer sy'n rhannu sut y gwnaeth diagnosis o diwmor ar yr ymennydd newid ei bywyd yn llwyr.
Y gantores Beth Frazer o Ynys Môn yw gwestai pennod gyntaf Meddwl yn Wahanol. Ar ôl rhyddhau ei senglau pop cyntaf yn 16 oed, fe wnaeth Beth fwynhau cyfnod prysur o berfformio ar hyd Cymru a Lloegr.
Ond ymhen ychydig iawn o amser fe newidiodd ei bywyd yn llwyr. Ar ôl dioddef poenau yn ei llygad, fe gychwynnodd cyfnod hir o driniaeth a arweiniodd at ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd.
Mae Beth yn trafod yr effaith ar ei chorff a’i iechyd meddwl, yn egluro sut y gwnaeth ei theulu ei chynnal drwy’r cyfnodau mwyaf anodd ac yn rhannu ei gobeithion ar gyfer y dyfodol.