Hynt a helynt un o fechgyn Bangor wedi iddo gael ei ddedfrydu i wasanaethu ar fwrdd y Clio, “llong yr hogia drwg” ar y Fenai ar droad y ganrif ddiwethaf. Clio -the bad boys ship.
Drama gan Manon Eames.
Mae'n siŵr bod sawl rhiant yn ardal Bangor a Biwmares wedi bygwth eu plant gyda sbel ar fwrdd "y llong hogia drwg" - y Clio, angorwyd ar y Fenai, ger y Garth ym Mangor, yn 1877.
Mae Dafydd Henry Williams, o Hirael, Bangor, yn pledio yn euog yn 1905 i ddwyn tair doli, pêl-droed a basged ffansi o farchnad Bangor, ac yn cael ei anfon i'r Clio gyda'r ddedfryd o gael ei gadw yno hyd at ei benblwydd yn 16 oed. Er taw pwrpas y Clio oedd addysgu bechgyn o gefndir tlawd ar gyfer bywyd ar y môr - profiad gwahanol iawn oedd yn disgwyl y bechgyn yma ar y Clio.
Cast
Gwyneth – Manon Wilkinson
Dafydd – Sion Davies
Ynad – Julian Lewis Jones
John Jones – Sion Pritchard
Huw – Ben Jones
Capten Langdon - Julian Lewis Jones
Esgob Bangor – Ian Saynor
Deon Bangor – Arwel Gruffudd
Kitty - Eos Fflur Gibson