Rhaglen arbennig yng nghwmni'r cerddor a'r cynhyrchydd ffilmiau Endaf Emlyn. A special programme with musician and film producer Endaf Emlyn.
Rhaglen arbennig yng nghwmni'r cerddor a'r cynhyrchydd ffilmiau Endaf Emlyn.
Yn rhan gyntaf y rhaglen mae Ffion yn sgwrsio wyneb-yn-wyneb gydag Endaf Emlyn gan edrych yn ôl ar ei gyfnod fel canwr, cyfansoddwr a gwneuthurwr ffilm ac yntau ar drothwy pen-blwydd arbennig ymhen ychydig o wythnosau.
Ac yna, yn ail ran y rhaglen mae Endaf Emlyn yn curadu awr o gerddoriaeth gan artistiaid Cymraeg sydd yn mynd â'i fryd ef ar hyn o bryd.