Yn gwmni i Dei mae Jane Aaron, awdur cyfrol ar Cranogwen, drannoeth dadorchuddio cofeb i'r wraig hynod hon. Taith Cadfan Sant i Ynys Enlli yw testun Siôn Aled a Sian Northey tra bod Densil Morgan yn canu clodydd Edmwnd Prys, cyfieithydd y Salmau Cân.