/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Crynodeb

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau, gan gynnwys ar gynlluniau Tata Steel i gau'r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich 23 Ionawr 2024

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

  2. Clinigau erthyliadwedi ei gyhoeddi 14:34 Amser Safonol Greenwich 23 Ionawr 2024

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

    Mae Jenny Rathbone o'r blaid Lafur yn gofyn "pa sylwadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i lywodraeth y DU ynghylch canllawiau drafft y Swyddfa Gartref a fyddai'n caniatáu i brotestwyr gwrth-erthyliad fynd at fenywod sy'n mynychu clinigau erthyliad">Wythnos ar ôl i’r meddygon iau fynd ar streic dros gyflogau a chynnal protest y tu allan i’r Senedd, mae Luke Fletcher o Blaid Cymru yn gofyn “pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud tuag at gynnig adferiad cyflog teg i feddygon iau?”

    Atebodd Mr Drakeford "rydym wedi ymrwymo i'r egwyddor o adfer cyflog ar gyfer ein holl weithlu GIG ymroddedig. Mae Cymru a'r DU gyfan angen y cyllid sydd ei angen ar gyfer codiadau cyflog adferol. Mae ein cyllideb eleni yn caniatáu dim ond y cynnig sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd."

    Cynhaliwyd y streic am dridiau yr wythnos ddiwethaf yn dilyn anghydfod dros gyflogau gyda Llywodraeth Cymru, gan achosi i gannoedd o lawdriniaethau a miloedd o apwyntiadau gael eu gohirio.

    Mae’r meddygon iau eisoes wedi cael codiad o 5% gan Lywodraeth Cymru sy'n is na'r 6% sy'n cael ei argymell gan y corff taliadau annibynnol.

    Yn Lloegr, mae meddygon iau eisoes wedi cael codiad cyflog o 8.8%, ond wedi gwrthod cynnig ychwanegol gwerth 3% ar gyfartaledd.

    Yn yr Alban, mae cynnig gwell o 12.4% wedi’i dderbyn, tra bod pleidlais ar y gweill yng Ngogledd Iwerddon.

    Dywed Luke Fletcher "roedd Plaid Cymru allan ar y llinellau piced gyda meddygon iau yr wythnos ddiwethaf ac roedd cryfder y teimlad yn amlwg. Mae erydiad cyflog o bron i draean ers 2008 wedi'i waethygu gan ddyledion mor uchel gan fyfyrwyr".

    Luke Fletcher
    Disgrifiad o’r llun,

    Luke Fletcher

  3. Croesowedi ei gyhoeddi 12:58 Amser Safonol Greenwich 23 Ionawr 2024

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.