Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2023
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog em eleni.
Ymunwch â ni eto yn y flwyddyn newydd.
Nadolig Llawen!

/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());
Mark Drakeford yn ateb cwestiynau yn siambr y Senedd am y tro olaf yn 2023.
Alun Jones
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog em eleni.
Ymunwch â ni eto yn y flwyddyn newydd.
Nadolig Llawen!
Meddai’r Aelod o'r Senedd Llafur Mike Hedges, "gwyddom o ddata a gyhoeddwyd bod elw gweithredu addasedig First Group wedi cynyddu i £100.6 miliwn yn 2023. Rydym hefyd yn gwybod bod gwasanaethau bysiau wedi lleihau'n sylweddol yn Abertawe, gydag amseroedd teithio i'r gwaith a'r coleg yn cael eu heffeithio, er bod rhai wedi'u dychwelyd erbyn hyn.
"O ddata a gyhoeddwyd gan y llywodraeth rydym yn gwybod bod £52.8 miliwn wedi'i roi i gwmnïau bysiau eleni. Sut y bydd y Bil bysiau yn helpu gyda'r diwygio y mae mawr ei angen fel y gall pobl fynd o gwmpas ar fysiau">Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at alwad gan AS Llafur ar i weinidog chwaraeon Llywodraeth Cymru ystyried ymddiswyddo oherwydd y modd yr ymdriniodd â honiadau o gasineb tuag at fenywod o fewn Undeb Rygbi Cymru
Mae Tonia Antoniazzi wedi cyhuddo Dawn Bowden o "ymdrech sinigaidd i ailysgrifennu hanes" mewn cyfweliad gyda'r BBC ble wnaeth y gweinidog amddiffyn ei hun.
Mae'r Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford yn ateb ei fod wedi lansio ymchwiliad i weld a ydyw Dawn Bowden wedi torri cod y gweinidogion.
Mae'n dweud bod Ms Bowden wedi gofyn am yr ymchwiliad ac mai gwas sifil fydd yn cynnal yr ymchwiliad.
Dywed Mr Drakeford fod gan URC "lawer i'w brofi o hyd, ond dwi'n meddwl eu bod wedi gwneud cychwyn ar y daith honno".
Mae'n dweud mai "y dirprwy weinidog oedd yn ystyried bod yr honiadau a wnaed yn ei herbyn mor ddifrifol fel ei bod yn dymuno i'w henw gael ei glirio, neu beidio, yn dibynnu ar yr ymchwiliad".
Byddai'r ymchwiliad yn cael ei gynnal yn y lle cyntaf gan y cyfarwyddwr moeseg, meddai Mr Drakeford, sef David Richards.
Ychwanegodd Mr Drakeford na fydd yn gosod amserlen ar gyfer yr ymchwiliad.
Andrew RT Davies
Dywed y prif weinidog fod datganiad hydref y Canghellor yn “ddychwelyd i lymder llawn”.
Mae lliniaru'r gyllideb yn "anoddach fyth" meddai.
Ymhlith y cynlluniau a gyhoeddwyd gan Ganghellor y DU Jeremy Hunt, y bydd Yswiriant Gwladol sy'n cael ei dalu gan weithwyr yn cael ei dorri o 12% i 10%, ac y bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn codi o £10.42 i £11.44 yr awr.
Datgelodd y Canghellor Jeremy Hunt gynlluniau treth a gwariant llywodraeth y DU yn Natganiad yr Hydref
Mae Mabon ap Gwynfor yn gofyn am ddiweddariad am hyfywedd gwasanaethau bysus cyhoeddus yn ei etholaeth, Dwyfor Meirionnydd.
Ymatebodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod "gwasanaethau bysiau dan bwysau ym mhobman. Mae llai o deithwyr yn golygu llai o refeniw i gefnogi'r rhwydwaith blaenorol o lwybrau. Ond, yn ardal Dwyfor Meirionnydd, bydd Cyngor Gwynedd yn dechrau gwasanaeth T22 newydd yn gynnar yn 2024, a fydd yn gwella cysylltiadau rhwng Porthmadog, Blaenau Ffestiniog a Chaernarfon".
Dywed Mabon ap Gwynfor, "fe wnes i ymweld â chyflogwr sydd yn gorfod cau ym Mlaenau Ffestiniog yn ddiweddar. Mae'n nhw'n talu cyflog da wrth ystyried cyflogaeth y sector, ac mae gyda nhw lefydd gwaith eraill yn y gogledd hefyd.
"Ond, yn anffodus, dydy'r gweithlu profiadol a dawnus presennol sydd ym Mlaenau Ffestiniog ddim yn gallu ffeindio cyflogaeth arall, oherwydd nad oes ganddyn nhw ffordd o gyrraedd y mannau gwaith hynny. Does ganddyn nhw ddim car preifat, a does dim bysiau yn teithio ar amser i'w cymryd i rannau eraill o'r gogledd. Mae diffyg bysiau, felly, yn effeithio'n uniongyrchol ar ein heconomi, ac yn arwain at broblemau eraill, problemau megis rhai cymdeithasol ac iechyd meddwl, er enghraifft."
Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm - sesiwn olaf y flwyddyn.
Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.