/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

'Gemau LHDTC+ yng Nghymru yn 'dangos bod chwaraeon i bawb'

Bydd twrnament aml-chwaraeon LHDTC+ mwyaf Ewrop yn dod i Gymru yn 2027.

Mae tîm Pride Sports Cymru, fu'n gyfrifol am y cais buddugol, yn dweud eu bod yn disgwyl i hyd at 10,000 o athletwyr ddod i gystadlu mewn 30 o wahanol gampau mewn lleoliadau ar draws Caerdydd.

Yn ôl y trefnwyr, ers ei sefydlu, mae'r twrnament wedi darparu "gofod saff" i ddegau o filoedd o athletwyr i gystadlu a dathlu amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant trwy chwaraeon.

Mae Neil Roberts, sy'n aelod o dîm bton LHDTC+ The Cardiff Red Kites, yn disgrifio hyn fel "newyddion arbennig".