/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Penodi Dr Rhodri Llwyd Morgan yn bennaeth y Llyfrgell Gen

  • Cyhoeddwyd
Rhodri Llwyd MorganFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhodri Llwyd Morgan yn gyn-Gyfarwyddwr y Gymraeg, Diwylliant Cymru a Chysylltiadau Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Dr Rhodri Llwyd Morgan wedi ei benodi yn Brif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd yn olynu'r Athro Pedr ap Llwyd sydd wedi bod wrth y llyw am bum mlynedd.

Bydd Dr Morgan yn cychwyn yn ei rôl newydd yn y gwanwyn.

Cyn cael ei benodi, roedd yn Gyfarwyddwr y Gymraeg, Diwylliant Cymru a Chysylltiadau Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan ei fod yn "edrych ymlaen yn arw at weithio gyda staff, ymddiriedolwyr, a phartneriaid y Llyfrgell ac i hyrwyddo'i chenhadaeth ymhlith pobl Cymru a thu hwnt".

Ychwanegodd Ashok Ahir, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Rydym yn falch iawn o benodi Rhodri Llwyd Morgan yn y rôl allweddol hon ac yn edrych ymlaen yn fawr fel Bwrdd at gael cydweithio i barhau i siapio'r Llyfrgell ar gyfer y dyfodol."

Fe dderbyniodd Dr Morgan ei addysg yng Ngheredigion, gan ennill gradd mewn Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ynghyd â Diploma mewn Llyfrgelliaeth, cyn cwblhau Gradd Meistr a Doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Pynciau cysylltiedig