/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Y Dreigiau a Chaerdydd yn colli yn Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Pau yn sgorio yn erbyn y Dreigiau llyneddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Colli fu hanes y Dreigiau yn erbyn Pau yng Nghwpan Her Ewrop nos Sadwrn wrth i'r tîm cartref gipio buddugoliaeth ddramatig ym munud ola'r gêm.

Roedd y rhanbarth Cymreig ar y blaen tan i un o eilyddion Pau, Theo Attissogbe, rwygo trwy amddiffyn yr ymwelwyr gyda symudiad ola'r gêm.

Sgoriodd Pau dri chais i gyd gyda'r cefnwr Desperes yn llwyddo â thair cic gosb.

Croesodd y Dreigiau am ddau gais gyda'r maswr, Cai Evans, yn trosi un ohonynt ac yn llwyddo â thair cic gosb.

Er iddynt golli o 24-21 yn y pendraw, sicrhaodd y Dreigiau bwynt bonws am eu hymdrechion.

Caerdydd 32-39 Caerfaddon

Yn hwyrach nos Sadwrn, colli hefyd oedd hanes Caerdydd yn erbyn Caerfaddon ar Barc yr Arfau o 32-39.

Sgoriodd Josh Adams ddau gais cyn gorfod gadael y maes ag anaf.

Gwelwyd saith cais yn yr hanner cyntaf, gyda'r tîm cartref ar y blaen o 25-24 ar yr egwyl.

Roedd tri chais pellach yn yr ail hanner gydag ail gais Coetzee yn selio'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr yn y munudau olaf.