Alison Cairns: Mam brysur i saith a dysgu Cymraeg
- Cyhoeddwyd

Alison yn seremoni Dysgwr y Flwyddyn 2023
Mae Alison Cairns yn fam i saith o blant, yn ofalwraig ac yn ffermio.
Mae'r Albanes sydd bellach yn byw yn Sir Fôn, hefyd wedi dysgu Cymraeg.
I ddathlu diwrnod Shwmae Su'mae ar 15 Hydref, yma mae Alison yn dweud ei stori ac yn rhoi tips dysgu Cymraeg.
* Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl *
Albanes yn symud i Gymru
S'mai! Enw fi ydy Alison Cairns, a dwi'n byw yn Sir Fôn efo saith o blant ac efo Siôn sy'n mynd i fod yn ŵr i mi fis yma.
Dwi'n gweithio fel gofalwraig a hefyd ffarmwraig pan dwi adra, yn helpu efo wyna, cneifio a chario bêls.
Dwi'n dod o'r Alban yn wreiddiol. Fe wnes i symud i Sir Fôn ym mis Awst 2007 efo fy merch Teagan (chwe mis oedd hi) ac fe ges i waith yn paratoi ceffylau gwedd i'w reidio ac er mwyn helpu i'w gwerthu nhw ymlaen.
Ond cyn symud i Sir Fôn do'n i ddim yn gwybod bod yr iaith Gymraeg yn bod! Dim ond Saesneg mae'r ysgolion yn yr Alban yn ei ddysgu i'r plant. Does dim sôn am Gaelic chwaith. Mae hynny yn fy ngwneud i'n drist iawn.

Alison a Siôn
Wnes i gyfarfod Siôn yn 2008 mewn sied yn Nhrefor, Sir Fôn, lle oeddwn i'n dysgu grŵp i reidio ceffylau.
Dechreuodd Siôn a fi fod yn ffrindiau efo'n gilydd, a mynd am dro weithiau i lan y môr a marchogaeth y ceffylau.

Alison a Siôn
Roedd o'n llawer o hwyl ond doedd o ddim yn hawdd i Siôn siarad Saesneg. Felly wnes i benderfynu dysgu Cymraeg achos pam ddim? Dwi'n byw yng Nghymru! Ond sut?
Dysgu'r wyddor
Y peth cyntaf wnes i oedd dysgu sut i ddweud yr wyddor. Gwnaeth hynny fy helpu i ddweud geiriau.
Dwi'n cofio Siôn yn prynu mwg i fi efo Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch arno fo a bob bore pan dwi'n cael panad dwi'n trio dysgu yr enw.

Nodyn 'stici' ar y drws
Pan dwi yn y car dwi'n gwrando ar Radio Cymru neu adra dwi'n rhoi S4C ar y teledu. Dwi'n cofio dod adra un diwrnod ac roedd yna nodiadau stici efo enwau Cymraeg dros y tŷ fel 'drws', 'tegell', 'oergell', 'teledu'. Roedd hyn yn help mawr i fi ddysgu enwau pethau dwi'n eu defnyddio bob dydd.
Wedyn dechreuais ddysgu geiriau ac ymadroddion fel 'bore da', 'nos da', 'croeso', 'diolch', 's'mai' a 'hwyl'. Ar ôl magu hyder fe wnes i ddechrau cael sgyrsiau bach fel 'Bore da, sut dach chi heddiw">