/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Glyn Roberts: 'Pwysig i amaeth symud 'mlaen yn gynaliadwy'

Os bydd Llywodraeth Cymru yn methu â pharhau i roi arian i'r diwydiant amaeth yn y dyfodol "bydd gwead cefn gwlad, y diwylliant a'r iaith yn dioddef".

Dyna farn Glyn Roberts ar ei ddiwrnod olaf fel llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, ar ôl bod yn y swydd am wyth mlynedd.

Wrth edrych tua'r dyfodol - a dymuno'n dda i'r tîm newydd fydd wrth lyw yr undeb - mae Mr Roberts yn dweud bod pob angen derbyn newid a chydweithio'n well gyda'r amgylchedd.

"Mae'n bwysig rŵan bod ni yn symud ymlaen yn gynaliadwy. Ma' cynaliadwyedd yn golygu i mi bod rhaid i chi edrych ar ôl yr amgylchfyd, rhaid i chi edrych ar ôl y bobl a rhaid i chi edrych ar ôl yr economi.

"Mae'n bwysig edrych ymlaen - gadewch i'r diwydiant amaeth gynhyrchu gyda'r cydbwysedd cywir ac edrych ar ôl y cyflenwad bwyd - a gwneud hynny mewn ffordd sy'n amgylcheddol gyfeillgar."

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd y Bil Amaeth a basiwyd yr wythnos hon yn darparu cymorth "uchelgeisiol a thrawsnewidiol i ffermwyr" a "gwarchod a gwella cefn gwlad, diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg".