/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Dwy fedal i'r Cymry yng Ngemau Olympaidd Arbennig Berlin

  • Cyhoeddwyd
Bleddyn GibbsFfynhonnell y llun, Special Olympics GB
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Bleddyn Gibbs ennill pob categori ar ei ffordd i gipio'r aur

Fe ddaeth medalau aur ac arian i athletwyr o Gymru yng Ngemau Olympaidd Arbennig 2023 yn Berlin ddydd Mercher.

Bleddyn Gibbs o Aberdaugleddau yw'r pencampwr codi pwysau bellach wedi iddo godi 140kg yn y sgwat, 75 yn y bench press a 150 wrth godi pwysau marw (deadlift).

Cyn y gemau dywedodd ei dad Steffan Gibbs fod cael ei ddewis i Dîm Prydain yn brofiad emosiynol i Bleddyn, 18.

"Wnes i lefain gyda dagrau hapus," meddai am y foment gafodd wybod ei fod yn y garfan. "Dwi wedi cyffroi."

Bev Tucker ac Ethan Orton
Disgrifiad o’r llun,

Ethan Orton gyda'i hyfforddwr Bev Tucker

Roedd yna lwyddiant hefyd i Ethan Orton o Aberhonddu - fe gipiodd e fedal arian yn nyblau cymysg bton gyda'i bartner Briony Johnson o Groesoswallt.

Fe enillon nhw o 23-21 yn y gêm derfynol.

Eleni, mae chwe athletwr o Gymru wedi cael eu dewis i fod yn Nhîm Prydain ac maen nhw'n cystadlu mewn amryw o gampau gan gynnwys bton, codi pwysau, athletau a bocce.

Pynciau cysylltiedig