/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Protest cefnogwyr Bangor dros bryderon stadiwm

  • Cyhoeddwyd
Protest 1876
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 20 o gefnogwyr yn protestio ar Stryd Fawr Bangor brynhawn Sadwrn

Bu cefnogwyr Clwb Pêl-droed Bangor 1876 yn cynnal protest yn y ddinas brynhawn Sadwrn yn sgil ffrae ynglŷn â dyfodol stadiwm.

Wrth i'r clwb obeithio sicrhau dyrchafiad i gynghrair y Cymru North y tymor nesaf, y disgwyl oedd y byddent yn symud i brif stadiwm y ddinas yn Nantporth.

Ond bellach mae'r dyfodol yn ansicr.

Ers ei ffurfio yn 2019 mae'r clwb - sy'n cael ei redeg gan ei gefnogwyr - wedi bod yn defnyddio caeau Prifysgol Bangor yn Nhreborth.

Ond os gawn nhw ddyrchafiad dydy'r cyfleusterau yno ddim yn cwrdd â gofynion yr ail haen.

Mae Nantporth CIC, y cwmni sy'n rhedeg Stadiwm Nantporth, yn rhentu'r cyfleuster gan Gyngor Dinas Bangor.

Ond gyda'r cyngor yn bygwth mynd a nhw i gyfraith yn sgil dyledion o £63,000, mae prif noddwyr Bangor 1876 yn dweud y gallan nhw dynnu eu cefnogaeth yn ôl os bydd y clwb yn symud i Nantporth heb fod y sefyllfa wedi newid.

'Be sy'n ein herbyn ni ydi amser'

Hyd yn oed os daw dyrchafiad wedi'r gêm ail gyfle ym Mhrestatyn ddydd Sadwrn nesaf yn erbyn Cefn Albion, does ond ddeufis tan dechrau'r tymor newydd.

Oherwydd hynny mae'r amser i ganfod ateb yn prinhau.

Treborth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Bangor 1876 wedi chwarae ar gaeau Treborth ers 2019, gyda'r clwb wedi'i sefydlu gan gefnogwyr D Dinas Bangor oedd yn anfodlon a'r ffordd oedd eu cyn-glwb clwb yn cael ei redeg.

Mae'r clwb eisoes wedi datgan y gallan nhw orfod chwarae y tu allan i ddinas Bangor os nad yw'r anghydfod yn cael ei ddatrys.

Dywedodd Les Pegler, un o gefnogwyr Bangor 1876: "Da ni'n cerdded o waelod y dref i Ffordd Ffarrar [cyn stadiwm D Dinas Bangor] i dynnu sylw at y sefyllfa.

"Gobeithio fyddan ni'n gallu datrys be sy'n mynd ymlaen.

"Fysa cyrraedd yr ail haen yn goblyn o gamp... 'da ni'n cael rhyw 300 i'n gemau adref felly mae'r cefnogaeth yna.

Les Pegler
Disgrifiad o’r llun,

Dywedod Les Pegler mai pwrpas y brotest oedd tynnu sylw i'r sefyllfa

"Mae Treborth wedi bod yn grêt i ni ond sa ni'n methu chwarae yna season nesa'.

"Mae angen i'r CIC a'r Cyngor Dinas ddod i gytundeb.... yr unig beth sy'n ein herbyn ni ydi amser.

"Da ni'n hyderus neith ddigwydd mewn amser, ond mater o pa bryd">