Johnny Cash, Andy Warhol a ‘Wil from Wales’
- Cyhoeddwyd

Yr artist Wil Rowlands
Prin iawn mae rhywun yn clywed am berson sydd wedi cyfarfod Johnny Cash ac Andy Warhol, heb sôn am wneud hynny ar hap a damwain o fewn un awr yn Efrog Newydd.
Ond mae'r ffordd wnaeth Wil Rowlands gyfarfod rhai o ffigyrau pwysicaf byd celf a cherdd y 70au a'r 80au yn crynhoi gyrfa hynod liwgar yr artist o Ynys Môn.
1985 oedd hi ac roedd wedi bod yn aros yn Greenwich Village yn yr 'Afal Mawr' tra'n mynychu cynhadledd gan y School of Visual Arts.
"Roeddwn i wedi pasio siop lyfrau yn y bora ac ar y ffenast roedd 'na ddarn bach o bapur yn deud 'Andy Warhol here this evening at 7.30 g this book'," meddai Wil wrth Beti George ar Radio Cymru.
"Ond rhyw awr cyn hynny roeddwn yn lladd amser. Dyma fi yn mynd i mewn i siop lyfrau arall ac ar yr ail lawr doedd 'na neb yna dim ond y fi, oeddwn i yn meddwl…
"Roeddwn i'n cerdded o gwmpas gyda fy mhen ar gam yn sbïo ar y llyfrau a nes i yn llythrennol bympio mewn i'r dyn 'ma - tal, mewn dillad du - ac er bod gen i vinyls Johnny Cash adra, ac roeddwn yn chwarae ei ganeuon o ar fy ngitâr - dyma fi yn troi fy llaw ato fo a deud 'oh you're um…' a fedra'i ddim cofio ei enw fo!

Johnny Cash
"Roedd o wedi fy llorio i… A dyma fi yn pwyntio ato fo [a dweud] 'you're that singer' a dyma fo yn pwyntio ata fi i ysgwyd llaw, 'yes I am, and who are you">