/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Pedwar person yn gwadu ceisio llofruddio yn Y Rhyl

  • Cyhoeddwyd
Crescent RoadFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r heddlu yn bresennol yn ardal Ffordd Cilgant, Y Rhyl, wedi'r digwyddiad mis diwethaf

Mae pedwar person wedi gwadu ceisio llofruddio yn dilyn ymosodiad honedig yn Y Rhyl fis diwethaf.

Bydd Sharon Roberts, 37, a Paige Roberts, 19, o Drelogan, ynghyd â Callum Parker, 18, o'r Rhyl, a bachgen 17 oed, yn ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug ym mis Hydref.

Dioddefwr honedig y digwyddiad ar Ffordd Cilgant ar 9 Ebrill oedd Ryan Vincent.

Mae'r bachgen 17 oed hefyd wedi'i gyhuddo o fod ag arf yn ei feddiant, ac ynghyd â Mr Parker mae'n wynebu cyhuddiad o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae Liam Babbs, 24, a Fredrick White, 18, o'r Rhyl hefyd wedi'u cyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Maen nhw oll yn parhau i gael eu cadw yn y ddalfa yn y cyfamser.