/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Rygbi Dydd y Farn: Gweilch 21-38 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Thomas YoungFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Roedd hi'n fuddugoliaeth gyfforddus i Gaerdydd yn erbyn y Gweilch ar 'Ddydd y Farn' yn Stadiwm Principality.

Fe sgoriodd Thomas Young ddau gais a chreu un arall wrth i'w dîm ennill eu lle yng Nghwpan Heineken ar gyfer y tymor nesaf.

Fe groesodd Max Llewellyn a Mason Grady hefyd tra y gwnaeth Sam Parry, Gareth Thomas a Dewi Lake ymateb yn yr ail hanner ar gyfer y Gweilch.

Ond roedd hi'n rhy hwyr i sicrhau buddugoliaeth i'r tîm o Abertawe yn y gêm allai fod wedi gweld Alun Wyn Jones yn ymddangos am y tro olaf.

Fe gododd Rygbi Caerdydd y darian wedi'r gêm gan sicrhau eu lle ym mhrif gystadleuaeth Ewropeaidd y clybiau rygbi dymor nesaf.