/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Y Gweilch 37-18 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Rhodri Williams yn methu rhoi stop ar Morgan Morris wrth groesi'r llinell gaisFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Fe gafodd y Gweilch brynhawn llwyddiannus adref yn erbyn y Dreigiau ddydd Sadwrn.

Fe ddaeth ceisiau gan Nicky Smith, Dan Lydiate, Morgan Morris, Iestyn Hopkins a Keiran Williams i sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws i'r tîm cartref.

Fe gafodd canolwr y Dreigiau, Sio Tomkinson, gerdyn coch wedi 44 munud am dacl beryglus ar Jack Walsh.

Fe sgoriodd asgellwr yr ymwelwyr, Jordan Williams gais i'r Dreigiau, gan sicrhau cais cosb hefyd.

Mae gobeithion y Gweilch yn dal yn fyw i orffen y uwchlaw rhanbarthau eraill Cymru yn y bencampwriaeth.