Honiadau rhywiaeth URC yn annog mwy o fenywod i godi llais
- Cyhoeddwyd

Roedd Jane Anderson yn gweithio gyda Chyngor Chwaraeon Cymru rhwng 1991 a 1993
Rhybudd: Fe allai'r iaith yn yr erthygl yma beri gofid i rai
Mae menywod sydd wedi aros yn dawel am 30 mlynedd am y rhagfarn rhyw maen nhw'n dweud iddynt ei wynebu yn y byd chwaraeon, wedi rhannu eu straeon yn dilyn honiadau a wnaed yn erbyn Undeb Rygbi Cymru.
Yr wythnos diwethaf dywedodd dwy gyn-weithiwr eu bod wedi ystyried lladd eu hunain yn sgil eu triniaeth gan y corff llywodraethu.
Dywedodd URC fod y ddau achos yn cael eu hymchwilio. Fe ymddiswyddodd y prif weithredwr, Steve Phillips ddydd Sul.
Mae'r honiadau wedi ysgogi merched eraill i godi eu llais am y tro cyntaf.
Pan gafodd yr honiadau diweddaraf eu cyflwyno i URC, dywedodd ei brif weithredwr dros dro, Nigel Walker, ei bod yn "hynod ddirdynnol clywed am y profiadau mae'r merched yma wedi'u dioddef" ac fe ymddiheurodd ar ran URC.
Roedd Cath, sydd wedi penderfynu peidio rhoi ei chyfenw, yn gweithio fel swyddog y wasg i URC ar ddiwedd y 1990au pan oedd yn ei 20au.
"Cefais fy syfrdanu gan faint o rywiaeth welais i yno, roedd drwy'r dydd, bob dydd," meddai.
"Roedd yn aml gan aelodau'r pwyllgor a gan y bobl reit ar y brig."
Dywedodd bod ymddygiad y pwyllgor "wedi fy syfrdanu i a phawb arall pob dydd".
'Edrych ar fy mrest'
"Roedd yna un sylw sy'n sefyll allan uwchlaw pob un arall ac mae'n cynnwys gair ofnadwy," ychwanegodd.
Dywedodd fod yna ddynes yn estyn i lawr o dan ddesg i godi rhywbeth wrth i aelodau'r pwyllgor ddod drwy'r adran, a bod un ohonyn nhw wedi gwneud sylw hynod fychanol am siâp corff y fenyw gan ddefnyddio'r 'N word'.
"Clywais hynny 20 mlynedd yn ôl ac mae'n dal i fod yn sioc i mi nawr," meddai.
"Roedden ni i gyd wedi'n brawychu ond doedd neb ohonom wedi synnu - roedd yn wir yn teimlo fel pe bai'r merched yn cael eu gweld yn wahanol iawn i'r dynion."
Yn trafod ffigwr uchel arall o fewn yr undeb, dywedodd: "Dydw i ddim yn meddwl i mi gael un sgwrs ag ef lle nad oedd yn edrych ar fy mrest."
Dywedodd ar un achlysur fod cyfarfod pwyllgor yn cael ei gynnal lle roedd angen iddi adrodd i'r wasg wedyn.
"Doeddwn ddim yn gallu credu na ches fy ngadael i fewn i'r ystafell bwyllgor oherwydd fy mod i'n fenyw," meddai.

Dywedodd bod ei rheolwr gwrywaidd yn cael mynd i mewn i'r ystafell a bod yn rhaid iddo sibrwd beth oedd yn digwydd trwy'r drws cil agored fel y gallai ei ysgrifennu i lawr.
"Roedd hynny'n normal, dyna'r ffordd roedden nhw'n gweithredu.
"Doedd neb byth yn siarad i fyny a dweud 'mewn gwirionedd dydi hynny ddim yn hollol iawn'… roedd y syniad sylfaenol hwn bob amser, pe baech yn dweud rhywbeth, y byddech yn anghywir oherwydd nad oes neb arall yn dweud unrhyw beth," meddai.
Dywedodd tra'n gweithio i URC ei bod yn "gandryll drwy'r amser... mor jaded".
'Erioed wedi gwylio rygbi eto'
Mae wedi cael effaith barhaol arni.
"Roeddwn wedi fy nadrithio cymaint dydw i erioed wedi gwylio rygbi eto - hyd yn oed nawr gyda'r Chwe Gwlad alla i ddim hyd yn oed ei wylio," meddai.
"Rwy'n meddwl am yr holl erchylltra o dan yr arwyneb disglair hwnnw, a dwi ddim eisiau unrhyw ran ohono.
"Alla'i ddim credu ein bod yn dal i gael y sgwrs hon, mae'n syfrdanol."
Hoffai weld URC yn cynnal ymchwiliad ac edrych yn drylwyr ar "bob cwyn a siarad â phob enw sydd wedi'i grybwyll".
'Rydych chi yng Nghymru nawr'
Roedd Jane Anderson yn swyddog datblygu cenedlaethol gyda Chyngor Chwaraeon Cymru, Chwaraeon Cymru erbyn hyn, ac wedi'i lleoli yng Ngerddi Sophia, Caerdydd rhwng 1991 a 1993.
Dywedodd ar ddiwrnod hyfforddi, yn fuan ar ôl iddi ddechrau yn y rôl, bod cynrychiolydd o URC wedi gwneud iddi deimlo'n anghyfforddus iawn.
"Pwysodd y person dan sylw ar draws y bwrdd ataf a dweud 'faint o amser mae'n ei gymryd i gael gwared ar dy knickers">