/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Gweilch 16-16 Stormers

  • Cyhoeddwyd
mylerFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Ciciodd Stephen Myler, 38, dair cic gosb a throsiad yn erbyn Stormers

Fe sgoriodd y Gweilch drosgais hwyr i sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Stormers mewn amgylchiadau anodd yn Abertawe.

Yr eilydd Scott Baldwin sgoriodd unig gais y tîm cartref - a hynny gyda llai na phum munud o'r 80 yn weddill - wrth i'r glaw dywallt i lawr yn Stadiwm Swansea.com.

Y maswr profiadol a seren y gêm, Stephen Myler, giciodd gweddill y pwyntiau, gan gynnwys y trosiad hwyr.

Roedd Stormers wedi mynd ar y blaen diolch i gais gan y mewnwr Paul de Wet a 11 pwynt gan Manie Libbok.

Pynciau cysylltiedig