Ail gartrefi: 'Amhosibl gwybod faint yn union sydd ar hyn o bryd'
- Cyhoeddwyd

Rachel Lewis: "Dwi wedi symud wyth gwaith mewn dwy flynedd - yn byw yn nhai haf pobl, mewn iwrts ac mewn carafanau"
Mae'n amhosibl gwybod faint yn union o ail gartrefi sydd yng Nghymru, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau Senedd Cymru.
Mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio diffiniadau cyson o beth yw 'ail gartrefi' pan yn cynllunio polisïau.
Ond mae gormod o alw am ymchwil pellach yn hytrach na gweithredu yn argymhellion yr adroddiad yn ôl Cymdeithas yr Iaith.
Mae mynd i'r afael â'r cynnydd mewn ail gartrefi yn rhan o'r cytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Ar hyn o bryd, meddai'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, mae'r data a gesglir gan Awdurdod Cyllid Cymru ond yn gallu mesur sawl eiddo sydd wedi cael ei brynu gan unigolion lle nad oedd yr eiddo i fod yn brif breswylfa.
Ond medd y pwyllgor, "pwynt hollbwysig yw ni all wahaniaethu rhwng buddsoddiadau prynu i osod ac eiddo y gellir eu hystyried yn ail gartrefi neu yn llety gwyliau, sy'n golygu ei bod yn amhosibl gwybod faint yn union sydd ym mhob categori".

Fe wnaeth pobl ymgasglu mewn gwahanol bentrefi ym Mhen Llŷn yn 2021 er mwyn tynnu sylw at y broblem
Mae'r pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gydag Awdurdod Cyllid Cymru "i sicrhau bod data ar ail gartrefi ac eiddo prynu i osod yn cael eu gwahanu'n glir, a'u bod ar gael ar lefel gymunedol i helpu i lywio polisïau yn y dyfodol."