Cynllun i ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad
- Cyhoeddwyd
Prif leisydd y band Chroma, Katie Hall, sy'n esbonio pwysigrwydd lleoliadau annibynnol iddi hi a'r band
Byddai cynllun i brynu lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad yn helpu i ddiogelu'r sîn gerddoriaeth Gymreig am genedlaethau i ddod, yn ôl elusen.
Mae'r elusen The Music Venue Trust (MVT) eisiau gwario £3.5m i brynu naw eiddo ar draws Prydain.
Mae dau leoliad yng Nghymru yn eu plith The Bunkhouse yn Abertawe, a Le Pub yng Nghasnewydd.
Dywed arweinwyr y prosiect eu bod am fod yn rhyw fath o Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth yn hytrach na phlasdai a chestyll.

Mae'r ymgyrch gan MVT yn gobeithio prynu lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad, ar gyfer eu cymunedau
Dywed MVT bod dros draean o leoliadau cerdd llawr gwlad y DU wedi cau yn yr 20 mlynedd diwethaf.
Tenantiaid yn talu rhent i landlord oedd dros 90% o'r lleoliadau hynny, gyda phrydles o 19 mis yn unig, ar gyfartaledd.
"Y bobl orau i berchnogi lleoliadau cerdd ydi'r diwydiant cerdd ei hun," meddai Mark Davyd, sylfaenydd a phrif weithredwr MVT.
"Dwi ddim yn beirniadu landlordiaid, dwi ddim yn beirniadu buddsoddwyr preifat, dim ond dweud mai elw sy'n eu symbylu."

Ddoe a heddiw: Dim ond wyneb bar Gwdihŵ sy'n sefyll erbyn hyn
Tynnodd yr elusen sylw at achos bar Gwdihŵ yng Nghaerdydd, fel esiampl o ddinas yn colli safle cerdd poblogaidd a bywiog, oherwydd ailddatblygu.
Er gwaethaf protestiadau a deiseb ag arni 20,000 o enwau, mae'r gwaith o drawsnewid y safle yng Nghilgaint Guildford, Caerdydd, wedi dechrau.
Bydd bloc o fflatiau 30 llawr yn cael ei godi yno, gyda dim ond wyneb yr hen adeiladau, yn cynnwys y Gwdihŵ, yn cael eu cadw, am eu bod yn rhestredig.
"Roedd hwnna'n adnodd cymunedol pwysig dros ben, roedd y gymuned gerddorol leol a'r gymuned o'i gwmpas, yn ei garu," meddai Mr Davyd.
"Dydi hyn ddim ynglŷn ag arian yn unig, mae o'n ymwneud â ble mae'n cymunedau ni'n cwrdd, ble mae'n hartistiaid yn cychwyn a sut ydym ni'n datblygu eu gyrfaoedd">